top of page

Artist Y Mis Gorffennaf: Gŵyl Fyddar Geltaidd

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.


Ar gyfer mis Gorffennaf, rydyn ni’n rhoi sylw i un o’n haelodau sefydliadol cyn eu gŵyl fis nesaf: Gŵyl Fyddar Geltaidd!


Wedi'i sefydlu gan Fiona Morgan, Bill Davies, ac Elin Williams, mae'r Ŵyl Fyddar Geltaidd yn ddigwyddiad 'nid-er-elw' sy'n digwydd bob 2 flynedd ar y penwythnos ar ôl penwythnos gŵyl Banc yr Haf ym mis Awst.


Mae ar gyfer y gymuned Fyddar yn unig ac ar gyfer y rhai sy'n cyfathrebu yn IAP (Iaith Arwyddion Prydain) gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae Gŵyl Fyddar Geltaidd yn ddathliad diwylliannol o ddiwylliant Byddar ac iaith Fyddar ynghyd â mwynhad CERDDORIAETH! (deep bass).


​Penwythnos o wersylla a mwynhau perfformwyr Byddar, gweithgareddau awyr agored, adloniant, cyfarfod wynebau newydd a hen, cyfleoedd cymdeithasol i stondinwyr a llawer mwy!


Mae un o sylfaenwyr yr ŵyl, Elin Williams, yn esbonio’r cyfan yn y fideo IAP hwn: https://www.facebook.com/CelticDeafFestival/videos/434629815842080/


Mae gŵyl eleni o ddydd Gwener 30 Awst - dydd Sul 1 Medi yn Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1RB.


Dysgwch am y diddanwyr sydd wedi'u cadarnhau eleni yma: https://www.celticdeaffestival.co.uk/entertainment



Gallwch ddarganfod mwy am Ŵyl Fyddar Geltaidd ar eu Gwefan, Facebook ac Instagram:

5 views

Related Posts

See All

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page