Galwad am Artistiaid Anabl / â Salwch Cronig sydd â phrofiad byw o Awyru Mecanyddol
- cerys35
- Jun 3
- 1 min read
Awdur: Prosiect 'Crippling Breath' ym Mhrifysgol Sheffield
Gwybodaeth am y cais mewn Print Bras, Hawdd ei Ddarllen ac Iaith Arwyddion Prydain (IAP) ar gael yma.
Mae Crippling Breath, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Sheffield (DU), yn recriwtio tri artist anabl, â salwch cronig, ac sy'n cael eu hawyru, sydd â phrofiad byw o gyflyrau anadlol cronig, ac sydd angen cymorth awyru, fel awyru anfewnwthiol fel CPAP neu BIPAP, neu ffurfiau eraill fel traceostomi. Bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn preswylfa gydweithredol â thâl, a byddant yn cyd-gynhyrchu gweithiau newydd ar gyfer arddangosfa.
Dyddiad cau: 5yp, dydd Iau 10 Gorffennaf 2025