Martha: Taking Flight mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman
- cerys35
- Jun 16
- 1 min read
Theatr y Sherman, Caerdydd
Dydd Gwener 13 Mehefin - Dydd Sadwrn 21 Mehefin
Stiwdio Theatr, Pontio Bangor
Nos Fercher 25 Mehefin, 7.30pm
Nos Iau 26 Mehefin, 7.30pm
2055. Mae’r Rhaglen wedi gyrru Byddardod dan-ddaear. Mae defnyddio iaith arwyddion wedi ei wahardd ac mae’n weithred brotest radicalaidd sy’n ennyn drwgdybiaeth a gorthrwm. Ydy clwb cabaret Martha yn loches groesawgar i leiafrif gwaharddedig, yn noddfa i derfysgwyr posibl, neu’n rywbeth hyd yn oed yn fwy sinistr?
Mae cast o chwe pherfformiwr talentog (5 Byddar, 1 sy'n clywed) yn dod â'r ddrama newydd gyffrous hon yn fyw mewn cymysgedd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Saesneg a Saesneg â Chymorth Arwyddion. Yn gwbl hygyrch drwyddi draw, mae'r rhan fwyaf o'r ddrama yn digwydd yn Iaith Arwyddion Prydain neu Saesneg â Chymorth Arwyddion Prydain (SSE), gydag unrhyw Saesneg llafar hefyd mewn capsiynau creadigol a grëwyd gan y dylunydd Byddar Ben Glover. Mae croeso i ffrindiau sy'n clywed hefyd, gan y bydd Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chapsiynnu i'w gwneud yn hygyrch i gynulleidfaoedd sy'n clywed. Bydd y sioe hefyd yn hygyrch i aelodau'r gynulleidfa sy'n ddall a rhannol ddall. Bydd taith gyffwrdd hefyd ddydd Iau 26 Mehefin.
Oedran: 14+