Dydd Mawrth 15 Hydref 2024, rhan o Mis Hanes Pobl Dduon 2024 – Adennill Naratifau 10:30-18:30 (ac wedyn noson o berfformiadau cerddoriaeth am ddim)
Wedi’i gyflwyno gan Mirain Iwerydd a Roger Wilson
Ymunwch â Tŷ Cerdd, Black Lives in Music a TÂN Cerdd yn Chapter i gael diwrnod yn dathlu cerddorion Du, Asiaidd ac Aml-Ethnig yng Nghymru – a’r ffocws ar gydweithio i ddileu rhwystrau.
12 artist – rhai yn perfformio’n unigol, rhai gyda bandiau, o amrywiaeth o genres. Bydd tri pherfformiad arddangos, ac yn ganolog i’r digwyddiad bydd symposiwm sydd â ffocws ar weithredu.
Os ydych chi’n rhan o’r byd cerdd yng Nghymru, rydym eich angen chi yno – nid yw newid yn gallu digwydd heb eich llais chi yn yr ystafell!
Mae’r tocynnau yn rhad ac am ddim (ac yn cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn), ond mae niferoedd yn gyfyngedig – felly os byddwch yn cofrestru, arhoswch drwy’r dydd
Comments