top of page

Eich llais, Eich Senedd: Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Awdur: Senedd

Dyddiad: dydd Mawrth 3 Rhagfyr

Amser: 10:30 - 15:00

Ble: Senedd


Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl 2024 mewn digwyddiad a drefnir mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru.


Bydd ein siaradwyr diddorol yn myfyrio ar y thema eleni, sef "Cynyddu arweinyddiaeth pobl anabl ar gyfer dyfodol cynhwysol a chynaliadwy', ac yn rhannu eu profiadau personol ar eu llwybr hwy tuag at lwyddiant.


Bydd y digwyddiad yn trafod gwaith y Senedd wrth ymgysylltu â phobl anabl ar amrywiaeth eang o bynciau, ac yn amlygu sut y gall pobl anabl gymryd rhan, a dylanwadu ar waith y Senedd yn y dyfodol.


Byddwn hefyd yn cynnal lansiad 'Mynediad at Wleidyddiaeth', sef Rhwydwaith Cyfoedion Anabledd Cymru, yn ystod y digwyddiad.


Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys manylion ynghylch y siaradwyr a’r sesiynau, yn dilyn yn fuan.


Gobeithiwn y byddwn yn eich gweld yno.


I archebu eich lle, cwblhewch y Ffurflen Microsoft* hon neu fel arall e-bostiwch cysylltu@senedd.cymru


Os hoffech drafod unrhyw anghenion hygyrchedd cyn y digwyddiad, cysylltwch â Anna Skibniewski-Ball: Anna.Skibniewski-Ball@senedd.cymru

7 views
bottom of page