Cyfres o Ddigwyddiadau ar gyfer Artistiaid Anabl a Byddar yng Nghymru
Grymuso a Gwrando ar Artistiaid Anabl Ifanc
Digwyddiad ar-lein yn archwilio'r model cymdeithasol o anabledd o fewn ymarfer celfyddydau ieuenctid. Mae artistiaid anabl ifanc yn helpu i ddathlu'r hyn sy'n cael ei wneud yn dda ac yn ein hysbrydoli i weithio'n fwy cynhwysol.
Gwesteiwr: Miranda Ballin
Gwesteion: Ruth Fabby MBE DL, Jane Latham, Hannah Matthews, Steve Swindon, Emlyn Wright, Steph Back, Ciaran Fitzgerald, Safayan Iqbal, Dan o RecRock
Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg i Rymuso Pobl Anabl
Crip Talk hynod ddiddorol sy'n trafod sut mae iaith yn effeithio ar ein bywydau a'r heriau a'r buddion o fod yn siaradwr Cymraeg ac yn Fyddar neu'n anabl.
Gwesteiwr: Natasha Hirst and Sara Beer.
Gwesteion: Professor Elin Jones, Sarah Lawrence, Nia Skyrme, Mared Jarman.
The Curator’s Stare
Beth sy'n digwydd pan fydd artistiaid yn teimlo nad ydynt wedi cyrraedd y nod ac yn cael eu gadael mewn sefyllfa o grfod cwestiynu eu gwaith a'u dulliau dro ar ôl tro? Sut allwn ni ymdopi pan fydd ein gobaith a’n hyder yn cael ei ddryllio? Sut allwn ni feddu ar y ‘Curators Stare’?
Gwesteiwr: Alan Whitfield
Gwesteion: Cheryl Martin, Richard Butchins, Gail Martin
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 - Dewis Herio
Mae Disability Arts Cymru mewn partneriaeth â #WeShallNotBeRemoved yn dathlu menywod Anabl a Byddar o bob rhan o'r DU ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Gwesteiwr: Julie Macnamara
Gwesteion: Natasha Hirst – Cadeirydd DAC, Jenny Sealy, Francesca Martinez, Rachel Starritt, Hilary McCollum, Wendy Jones, Deepa Shastri, Miss Jacqui, Claire Cunningham, Dr Vole, Mared Jarman, Edel Murphy, Kaite O’Reilly
Awtistiaeth - y Genhedlaeth Nesaf - Sgwrs â Temple Grandin
Cawn sgwrs am sut i gynorthwyo meddyliau pobl awtistig, p'un a ydyn nhw'n beirianwyr neu'n artistiaid, yn dod o hyd i droedle pob unigolyn, gan roi'r holl addasiadau angenrheidiol iddyn nhw a'u helpu i ddatblygu eu sgiliau fel y gall y genhedlaeth nesaf o bobl awtistig ddod o hyd i'w ffordd yn y byd.
Gwesteiwr: Rachel Stelmach
Gwesteion: Temple Grandin, Gaia Redgrave, Rhi Lloyd-Williams, Grace Quantock
Diwrnod Rhyngwladol Anabledd - ymgyrchu a chelfyddydau
Mae artistiaid Anabl a Byddar yn gwneud ymgyrchwyr rhagorol. Mae eu profiadau byw yn siapio gweithgarwch celfyddydol sy'n dadlennu anghyfiawnderau cymdeithasol, sy’n adrodd gwirionedd nid chwedlau, gan fynd â llawer o bobl i mewn i ddealltwriaethau newydd am ein bywydau.
Gwesteiwr: Ruth Fabby MBE DL
Gwesteion: Barbara Lisicki, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt, Rhian Davies, Jon Luxton
Gweithgaredd Celfyddydau Pobl Ifanc Anabl / Byddar
Estynnodd DAC wahoddiad i sefydliadau Celfyddydol a Diwylliannol ledled Cymru i wybod mwy am weithio gyda phobl ifanc anabl a Byddar rhwng 16 a 30 oed. Mae'r drafodaeth hon yn ymwneud â'r hyn y gallwn ei nodi fel ffyrdd o weithio gyda phobl ifanc anabl a Byddar yn y dyfodol fel arweinwyr yn sector y celfyddydau.
Gwesteiwr: Miro Griffitths
Gwesteion: Jane Latham, Miranda Ballin, Menai Rowlands, Jake Sawyer, Danielle Marsden
Anabledd a'r Diwydiant Cerddoriaeth Rhan 2: Nodi atebion ac arfer gorau
Bu’r digwyddiad hwn yn trafod y cwestiynau canlynol; pam nad ydym yn gweld cynrychiolaeth deg o bobl anabl ar draws y diwydiant cerddoriaeth? Pam fod cerddorion neu gynhyrchwyr anabl talentog yn cael eu heithrio neu’n ofni cyfathrebu eu hanghenion mynediad?
Gwesteiwr: Lloyd Coleman
Gwesteion: Troi Lee, Ben Lunn, Sarah Lianne Lewis
Anabledd a'r Diwydiant Cerddoriaeth Rhan 1: Nodi materion: diwylliannol, strwythurol, corfforol
Bu’r digwyddiad hwn yn trafod y cwestiynau canlynol; pam nad ydym yn gweld cynrychiolaeth deg o bobl anabl ar draws y diwydiant cerddoriaeth? Pam fod cerddorion neu gynhyrchwyr anabl talentog yn cael eu heithrio neu’n ofni cyfathrebu eu hanghenion mynediad?
Gwesteiwr: Lloyd Coleman
Gwesteion: Gareth Churchill, Mark Pavey, Jo Thomas
Awtistiaeth - ydyn ni'n lleiafrif diwylliannol?
Trafodaeth banel yn cynnwys pobl awtistig. Mae ceisio cynnal yr un rhythm â’r mwyafrif niwro-nodweddiadol yn gallu bod yn dasg rhwystredig a blinedig. Dim ond 16% o oedolion awtistig sydd mewn gwaith amser llawn er gwaethaf y ffaith fod gan lawer ohonom IQ eithriadol o uchel a sgiliau a thalentau hynod ddatblygedig. Dyma ystyried sut deimlad yw bod yn y byd hwn a'r gwahaniaethau rhwng bod mewn cwmnïaeth niwro-nodweddiadol â chwmnïaeth awtistig.
Gwesteiwr: Rachel Stelmach
Gwesteion: Amy Richards, Selena Caemawr, Rhi Lloyd-Williams
Corrach a moeseg Hiwmor
Pam fod pobl sy’n fyrrach na’r person ‘cyffredin’, pobl a anwyd ag amrywiaeth o gyflyrau o dan faner feddygol ‘corrach’, yn cael eu hystyried fel testun jôc, yn darged hawdd i wneud hwyl amdanynt. Fel plant bydd llawer ohonynt yn dioddef bwlio, rhai i'r fath raddau fel eu bod yn dod yn hunanladdol. Roedd y panel yn cynnwys amrywiaeth o leisiau, gan gynnwys pobl o'r Academia, unigolion o fyd cabaret a Phodcastio, ac Ymgynghoriaeth Cydraddoldeb Anabledd.
Gwesteiwr: Sara Beer
Gwesteion: Dr Erin Pritchard, Tammy Reynolds, Simon Minty
Discrimination2
Mae hiliaeth yn bodoli hyd yn oed o fewn y gymuned Fyddar, mae rhaniad diwylliannol sy'n dal i lechu ac yn gwahanu pobl Fyddar yn ôl lliw eu croen. Mae'r genhedlaeth hŷn yn gwybod hyn yn well na neb. Nawr, mae cyfle i addysgu pobl Fyddar iau i fod yn fwy chwilfrydig yn ddiwylliannol ac yn barod i gymysgu, oherwydd ei bod eisoes yn gymuned fach ac nid oes unrhyw reswm i'w gwahanu ymhellach.
Gwesteiwr: Jonny Cotsen
Gwesteion: Rinkoo Barpaga, Maral Mamaghanizedeth