Ein gweledigaeth yw i weld Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl yn ganolog i gelfyddydau'r genedl
Sefydliad wedi ei arwain gan bobl anabl yw DAC ac rydym yn canolbwyntio ar adlewyrchu profiad byw pobl anabl/byddar. Drwy weithio yn ôl model cymdeithasol anabledd, rydym yn cydnabod mai rhwystrau systemig, agweddau negyddol, ac eithrio cymdeithasol (yn fwriadol neu'n ddiarwybod) yw'r prif ffactorau allweddol sy’n analluogi pobl.
Celf fel Platfform
Mae'r celfyddydau'n darparu llwyfan y gellir ei ddefnyddio i herio'r canfyddiadau negyddol cyffredin o bobl anabl, i dynnu sylw at anghydraddoldebau, ac i gefnogi dewisiadau cyfiawnder cymdeithasol amgen. Mae DAC yn defnyddio'r celfyddydau i addysgu, herio agweddau, a dileu rhwystrau sy'n cyfyngu ar ddewisiadau bywyd i bobl anabl fyw'n annibynnol ac yn gyfartal o fewn cymdeithas.
Felly, ystyrir bod holl waith DAC yn anelu at fod yn hygyrch ac mor ddi-rwystr â phosibl wrth gyflwyno ei weithgareddau celfyddydol. O ganlyniad, byddwn yn cofleidio amrywiaeth, yn enwedig hyrwyddo a dathlu iaith a diwylliant Cymru.