Trysorydd: Celfyddydau Anabledd Cymru
Cyfrifoldebau ymddiriedolwyr:
Mae bod yn ymddiriedolwr ar gyfer sefydliad yn swyddogaeth gynhyrfus a buddiol. Y Byrddau mwyaf effeithiol yw’r rhai sy’n buddio o unigolion o gefndiroedd amrywiol gydag amrywiaeth o brofiadau bywyd a sgiliau. Swyddogaeth yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod Celfyddydau Anabledd Cymru yn cyflawni ei dyletswyddau i’w haelodau ac yn gweithredu ei weledigaeth, cenhadaeth ac amcanion.
Cenhadaeth, gweledigaeth ac amcanion:
Gweledigaeth:
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl a Byddar yn ganolog i gelfyddydau ein cenedl.
Datganiad cenhadaeth:
Rydym yn credu mewn hyrwyddo hygyrchedd a chyfleoedd, dathlu amrywiaeth, meithrin talent newydd ynghyd ag ymarferwyr anabl sefydledig, ac ysbrydoli newid ledled Cymru.
Amcanion:
1. Cefnogi artistiaid anabl a Byddar i gyflawni eu potensial a chodi proffil eu gwaith.
2. Ehangu hygyrchedd a chynhwysiad i greawdwyr, gyfranogion a chynulleidfaoedd anabl.
3. Addysgu darparwyr celfyddydau i ddilyn ymarfer gorau hygyrchedd a chynhwysedd.
4. Cysylltu gyda’r llywodraeth a gwneuthurwyr penderfyniadau ynglŷn ag anabledd a’r celfyddydau.
5. Denu cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.
6. Dygnu am gydraddoldeb, rhagoriaeth ac effeithiolrwydd ym mhopeth, pob dydd.
Cyfrifoldebau statudol ymddiriedolwyr yw:
I sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i dogfen lywodraethol – y gellir ei hadnabod fel dogfen ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, neu erthyglau cymdeithasiad.
I sicrhau bod y sefydliad yn canlyn ei amcanion fel darnodwyd yn ei dogfen lywodraethol.
I sicrhau bod y sefydliad yn arfer ei adnoddau er mwyn gyflawni ei amcanion yn unig – rhaid i’r elusen beidio â gwario arian ar weithgareddau nad ydynt wedi cynnwys yn ei amcanion ei hun, p’un bynnag pa mor ‘elusennol’ neu ‘buddiol’ yw’r gweithgareddau.
I gyfrannu yn weithredol i swyddogaeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wrth roi cyfeiriad strategol cadarn i’r sefydliad, gosod polisi cyffredinol, darnodi bwriadau a gosod targedau ac arfarnu perfformiad yn erbyn targedau cytûn.
I ddiogelu enw da a gweledigaeth y sefydliad.
I sicrhau gweinyddiad effeithiol ac effeithlon y sefydliad.
I sicrhau sefydlogrwydd ariannol y sefydliad.
I ddiogelu a rheoli eiddo’r sefydliad ac i sicrhau buddsoddiad addas o gronfeydd y sefydliad.
Os yw’r sefydliad yn cyflogi staff, i benodi’r Cyfarwyddwr Gweithredol ac arsylwi eu perfformiad.
Yn ogystal ag ymddiriedolwyr eraill, dal yr elusen “mewn ymddiriedolaeth” ar gyfer buddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol trwy:
Sicrhau bod gan yr elusen weledigaeth, cenhadaeth a chyfarwyddyd strategol clir a’i bod yn ganolbwyntiedig ar gyflawni’r rhain.
Bod yn gyfrifol am berfformiad yr elusen ac am ei ymddygiad “corfforedig”; yn sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio gydag anghenion cyfreithiol a rheoleiddiol i gyd.
Gweithredu fel gwarcheidwaid asedau'r elusen, yn ddiriaethol ac anniriaethol, gan gymryd pob gofal dyladwy dros eu diogelwch, eu defnydd a'u cymhwysiad priodol.
Sicrhau bod llywodraethu'r elusen o'r safon uchaf posibl.
Yn ogystal â'r dyletswyddau statudol amrywiol, dylai unrhyw ymddiriedolwr wneud defnydd llawn o unrhyw sgiliau, gwybodaeth neu brofiad penodol i helpu'r bwrdd i wneud penderfyniadau da.
Yn arwyddol yn unig yw'r rhestr uchod o ddyletswyddau ac nid yn drwyadl. Bydd disgwyl i'r Trysorydd gyflawni unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n rhesymol gymesur â'r swyddogaeth.
Cydnabyddiaeth: Nid yw unrhyw dâl ariannol yn cyd-fynd â swyddogaeth y Trysorydd, er y gellir hawlio costau teithio.
Ymrwymiad amser: 4 cyfarfod Bwrdd a 4 cyfarfod pwyllgor Cyllid a Staffio pob flwyddyn
Yn adrodd I: Bwrdd yr Ymddiriedolwyr (Pwyllgor Gweithredol)
Disgrifiad Swydd Trysorydd:
Amcan:
Bydd y Trysorydd yn goruchwylio materion ariannol yr elusen yn gytûn ag arfer da ac yn gytûn â’r ddogfen lywodraethol a gofynion cyfreithiol, ac yn adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyson am iechyd ariannol y sefydliad. Bydd y Trysorydd yn sicrhau bod mesurau, rheolaethau a threfniadaethau ariannol effeithiol yn cael eu gosod, a’u bod yn addas i’r elusen.
Prif gyfrifoldebau:
Goruchwylio, cymeradwyo a chyflwyno cyllidebau, cyfrifon, datganiadau ariannol ac adroddiadau ariannol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ôl trafodaeth gyda’r Rheolwr Cyllid a Gweinyddu
Bod yn sicr bod adnoddau ariannol y sefydliad yn gallu cyflawni ei anghenion presennol a dyfodol a'u bod o fewn amcanion yr elusen
Bod yn allweddol wrth ddatblygu a gweithredu polisi cronfeydd ariannol a pholisïau buddsoddi addas
Prif ddyletswyddau:
Cydgysylltu â'r Rheolwr Cyllid a Gweinyddu ynglŷn â materion ariannol
Cadeirio cyfarfodydd yr is-bwyllgor Cyllid a Staffio ar gyfer bwrdd yr ymddiriedolwyr
Sicrhau bod trefniadaethau a rheolaethau cyfrifyddiaeth addas yn eu lle
Cynghori ar ymhlygiadau ariannol cynlluniau strategol y sefydliad
Mynychu a gweithio'n agos gyda'r pwyllgor cyllid
Cydgysylltu ag archwilwyr annibynnol yr elusen lle bo'n addas
Cydgysylltu â'r Cyfarwyddwr Gweithredol a'r Rheolwr Cyllid a Gweinyddu i sicrhau bod cyfrifon blynyddol yr elusennau yn cydymffurfio â'r SORP Elusennau cyfredol
Sicrhau bod offer ac asedau'n cael eu cynnal a'u hyswirio'n ddigonol
Rhoi gwybod i'r bwrdd am ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau ariannol
Cyfrannu at strategaeth codi arian y sefydliad
Gwneud cyflwyniad ffurfiol o'r cyfrifon yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol a thynnu sylw at bwyntiau pwysig mewn ffordd gydlynol a hawdd ei deall
Eistedd ar baneli gwerthuso, recriwtio a disgyblu yn ôl yr angen
Os hoffech wneud cais am y rôl uchod, anfonwch eich CV ynghyd â disgrifiad byr o sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn eich gwneud yn ymgeisydd addas ar gyfer y rôl i sue@dacymru.com gyda'r teitl testun ‘Trysorydd’.
Dyddiad cau: 14/06/24
Am unrhyw wybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â owain@dacymru.com
Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a Byddar a chymunedau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.