MODULATE // TRAWSGYWEIRIO

Wedi galwad agored poblogaidd, mae Celfyddydau Anabledd Cymru wedi dewis yr 8 Cerddor a’r Gweithwyr Diwydiant Cerddoriaeth Anabl rhwng 18-30 fydd yn rhannu eu hangerdd, sgiliau, anghenion a dyheadau er mwyn helpu creu’r cynllun Datblygu Cerddoriaeth cyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl : Trawsgyweirio.

Panel Modulate / Trawsgyweirio

  • Llun o Laura, menyw gwyn gyda gwallt brown hir a sbectol, yn gwisgo ffrog polka dot, gŵn graddio coch a du, a phenwisg graddio du. Yn y cefndir mae graddedigion eraill.

    Laura Moulding

    Fy enw i yw Laura Ann Moulding, a dwi’n rhan o’r project Trawsgyweirio. Graddiais yn ddiweddar o’r cwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu. Tu hwnt i gerddoriaeth, rwy’n eiriolwr iechyd meddwl ac ME/CFS. Dwi’n angerddol am ysgrifennu caneuon, chwarae sacsoffôn, ac annog pobl eraill gydag anableddau i ymuno â’r diwydiant cerddoriaeth.

  • Llun o Jake, gŵr ifanc gwyn gyda gwallt coch byr. Mae’n gwisgo crys t gwyn gyda bathodyn, ac mae’n eistedd mewn ystafell recordio.

    Jake Renwick

    Helo, Jake Renwick ydw i. Dwi’n 20 mlwydd oed, a dwi’n byw ger Abergele yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd dwi’n astudio Technoleg Cerddoriaeth Lefel 3, a fy niddordebau yw mynd i’r gampfa, dysgu gitâr, sioe gerdd a chwarae gemau. Dwi’n byw gyda hydroceffalws, oedi datblygiad hollgynhwysol ac anabledd dysgu - ond dydyn nhw ddim yn fy nal i nôl!

  • Llun o Josh, dyn du yn ei ugeiniau canol, gyda dreadlocks du a barf. Mae’n pwyso’n jacôs yn erbyn postyn lamp, yn gwisgo sbectol wedi’i lliwio’n oren, crys t glas tywyll a siaced ledr du gyda choler fflwffiog.

    Joshua Whyte

    Cerddor a gwyddonydd cyfrifiadureg yw Joshua Whyte. Mae Blank Face, ei gynfas cerddorol, yn asio gwahanol synau fel Hip Hop, Rnb, Trap Soul, Afro a Gospel. Wedi’i eni a’i fagu yn Nigeria, mae Blank Face hefyd yn gyw-gynhyrchydd gyda The Democracy Box, casgleb sy’n tyfu sy’n bartneriaid gyda’r Comisiwn Etholiafol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Joshua yn ddeiliad gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Caerdydd.

  • Llun o Ruth, menyw gwyn gyda gwallt hir sy’n symud o frown-i-felyn o’r brig i’r gwaelod, yn gwisgo ffrog ddu yn addas i’r gerddorfa. Mae’n eistedd mewn ystafell fawr gyda charped oren cain, ar gadair antique, yn chwarae’r fiola.

    Ruth Potts

    Mae Ruth yn chwarae’r fiola a’r fiolin, ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n perfformio fel aelod o gast ELO AGAIN, mae’n aelod o’r gerddorfa Paraorchestra ac yn rheoli ac yn perfformio gyda phedwarawd Fleur ac fel unawdwr. Ynghyd â hyn mae’n perfformio’n llawrydd mewn sawl cerddorfa. Mae wedi astudio’r fiolin a’r fiola yn RWCMD. 

  • Llun o Rebecca, menyw gwyn, yn gwisgo sbectol coch cragen crwban gyda gwallt brown llygliw yn gwenu ar y camera.

    Rebecca

    Myfyriwr cerddoriaeth yn ei blwyddyn olaf yw Rebecca o Gaerdydd. Mae’n chwarae chwythbrennau ac mae ganddi brofiad helaeth o ran Amrywiaeth a Chynhwysiant o fewn y sector celfyddydau creadigol. Mae’n edrych ymlaen i fod ar fwrdd TRAWSGYWEIRIO ac yn gobeithio y bydd pethau cyffrous ar y gorwel!

  • Llun o Elin, menyw ifanc gwyn gyda gwallt cyrliog brown hir, yn gwisgo sbectol haul. Mae’n gwisgo crys-t llwyd sy’n dweud “WOMAN ON THE INTERNET”. Mae’n sefyll yn erbyn cefndir porffor.

    Elin Angharad

    Cerddor a pherson creadigol sy’n niwrowahanol ac yn dioddef o salwch cronig. Mae hi’n gredwr cryf mewn ymryddhau a chyfiawnder, mae’n ceisio codi pobl anabl eraill sy’n creu drwy gyfrwng ei gweithgarwch. Mae Elin yn aelod o fforwm ieuenctid Anthem ac wedi cyfrannu at ystod o brojectau cyfranogi i bobl ifanc.

  • Llun o Sam, dyn gwyn gyda gwallt melyn byr, yn gwisgo sbectol â ffrâm ddu a chrys du llewys hir. Maen nhw’n sefyll ar lwyfan yn chwarae gitâr fâs brown â strap enfys gyda’i llaw dde.

    Sam Richardson

    Helo, fy enw i yw Sam, dwi’n 21 oed ac yn dod o Carlisle. Dwi yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Fy mhrif offeryn yw’r gitâr fâs, ond dwi hefyd yn mwynhau chwarae gitâr acwstig. Dwi’n edrych ymlaen i archwilio cerddoriaeth mewn awyrgylch cynhwysol a chefnogol, a dod i adnabod pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i mi.

  • Llun agos o Rhiannon, menyw gwyn gyda gwallt brown tonnog hir, colur llygaid oren a phensel linellu du. Mae’n gwenu gwên eang, gyda’i llygaid ynghau, yn erbyn cefndir arian.

    Rhiannon Barber

    Mae Rhiannon yn hoffi dangos y gall cerddoriaeth fod ar gael i bawb, beth bynnag fo’ch gallu, felly mae’n creu caneuon gyda’i llaid a gorsaf lŵpio yn unig. Ar hyn o bryd mae’n perfformio mewn gwyliau, tafarndai a chorneli stryd ar draws Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi cael ei chwarae ar Radio BBC Introducing Cymru.

  • Mae’r rhaglen yn rhedeg mewn dwy ran - cyfnod ymgynghori lle fydd y grŵp yn cynllunio rhaglen i siwtio eu diddordebau, ac yna cyfres o weithdai ar y themâu rydym wedi bod yn eu trafod, gan gydweithio â cherddorion ac arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth er mwyn dysgu rhagor. Os hoffech wybod mwy am Trawsgyweirio, neu fod yn rhan o’r cynllun yn y dyfodol, cysylltwch: Rosey@dacymru.com