Arddangosfa: Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig yn Oriel Môn, yn cynnwys aelod DAC Catherine Taylor Parry

Mae arddangosfa Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig yn agor yn Oriel Môn ar Ddydd Sadwrn Ebrill 27ain gyda digwyddiad rhwng 12.00yh a 2.00yh
.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith aelod DAC Catherine Taylor Parry ynghyd a gwaith Angie Hoopert, Jane Paice, Louise Morgan a Wendy Lawrence.

Bydd yr arddangosfa yn parhau nes 09.06.24.

Mae ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ yn cynnwys pum artist cyfoes sydd wedi gwreiddio eu dulliau artistig yn nhir Cymru. Mae’r meddyliau blaenllaw benywaidd y tu ôl i’r arddangosfa hon i gyd wedi’u magu yn ystod y 70au a’r 80au cynnar, fel y’u gelwir yn ‘Generation X’, pan roedd unigolion benywaidd cryf a chydraddoldeb yn cael eu dathlu mewn cerddoriaeth, ffasiwn a chelf. Mae’r arddangosfa yn goctêl o waith celf oesol a theimladwy.


Previous
Previous

Arddangosfa: ‘Counterfeit’ at Amgueddfa Cwm Cynon gan Aelod DAC Candice Black

Next
Next

Gwobr Artist Ifanc Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru