Cyhoeddiad Cwrdd!

O fis Mehefin ymlaen bydd Cwrdd yn cael ei gynnal bob dydd Mawrth cyntaf y mis o 5-6pm ar Zoom.

Mae Cwrdd ar gyfer i gyd o'n haelodau. Mae’n gyfle i gwrdd ag aelodau DAC, rhannu eich gwaith, a chael sgyrsiau pwysig am gelfyddydau anabledd. Mae gan y rhan fwyaf o’n digwyddiadau Cwrdd hefyd siaradwr gwadd, gan greu lle i ddysgu mwy am eu gwaith a’u profiadau nhw tra hefyd yn gallu rhannu eich gwaith a phrofiadau eich hun.

Mae gan ein holl ddigwyddiadau Cwrdd dehongliad IAP, a bydd y dehonglydd yn cael ei nodi ar fostiau misol y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd pellach, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru - bydd ffurflenni cofrestru Zoom ar gyfer pob digwyddiad ar ein gwefan.

Cadwch lygad am fostiau ar Hwb a Chyfryngau Cymdeithasol i ddysgu mwy am y themâu a siaradwyr gwadd sydd i ddod! Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau Cwrdd iaith Cymraeg dros y misoedd nesaf.

Bydd Cwrdd mis Mehefin yn cael ei gyhoeddi yn fuan iawn!

Previous
Previous

Y Dewis at Eglwys Sant Grwst

Next
Next

Barddoniaeth – Yn Fyw A Pheryglus yn Ŵyl Geiriau Wrecsam