Y Dewis at Eglwys Sant Grwst

10/05/2024 19:00

Gyda dehongliad IAP.

Cynhyrchiad Jones y Ddawns gyda Sekai Media, Theatr Clwyd, Dawns i Bawb, Amdani! Conwy, a Pontio yw Y Dewis.

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol eich ardal chi.

Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd eich ardal chi i ben clogwyni epig Ynys Môn. Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.

A gyda chymorth y Cyflwynydd, chi sy’n cael penderfynu sut y bydd stori pob un ohonynt yn datblygu. Bydd y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ar y cyd yn synnu pob un ohonynt.

Pwy ŵyr? Chithau hefyd efallai.

Gêm lawn dewisiadau yw bywyd.

Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Kulturrådet, Abderrahim Crickmay Charitable Settlement, Local Giving, Tŷ Cerdd a Noson Allan.

Delwedd: Full Mongrel.

Previous
Previous

Ysgoloriaeth PhD Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC a Ariennir yn Llawn: Y Celfyddydau, Gweithrediaeth a Hygyrchedd: Celfyddydau Anabledd yng Nghymru, 1980 Hyd Heddiw

Next
Next

Cyhoeddiad Cwrdd!