top of page

​​Naseem Syed

Rwyt Ti'n Perthyn Yma

Ffau o Freuddwydion - Llawenydd a Charedigrwydd Radical

​

Mae Ffau o Freuddwydion yn osodiad celf tecstilau, cyfryngau cymysg, am fy myfyrdodau, fy meddyliau mewnol, fy nheimladau am fy mhrofiad byw gyda niwroamrywiaeth. Dyma fydd y tro cyntaf i mi rannu'r rhan hon ohonof. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth sy'n ystyrlon ac yn wir i'm profiadau, yn y gobaith y gallai atseinio ag eraill. Yn ddiweddar, cefais ddiagnosis o ADHD yn 43 oed ac rydw i wedi canfod fy mod i wedi teimlo llawer o alar, cywilydd ac anghysur am hyn. O'n i ddim eisiau dweud wrth bobl ac yna sylweddolais, er mwyn i fi gefnogi ac eiriol dros bobl eraill drwy fy nghelfyddyd...mae angen i fi ddechrau gyda fi'n bod yn fwy onest gyda fi fy hun a'm taith o ddod o hyd i berthyn. Daeth hynny gyda'r sylweddoliad o ba mor anodd yw pethau bob dydd i fi, yn awr ac o'r blaen, yn enwedig wrth dyfu i fyny. Roeddwn i eisiau dweud wrth fy mhlentyn mewnol a fy hunan iau'r holl bethau yr oedd angen i mi eu clywed. 'Y tu ôl i bob menyw sy'n cael diagnosis hwyr mae merch fach a oedd yn gwybod nad oedd y byd hwn erioed wedi'i greu ar ei chyfer hi, ond na allai byth esbonio pam.'


Y ffau...Roeddwn i'n arfer eu gwneud nhw gyda fy chwaer fach yng nghartref fy nhaid gyda chynfasau gwely a bwrdd a thÅ· cardbord a wnaeth fy mam i ni. Roeddwn i'n teimlo'n ddiogel ac yn rhydd i fod yn bwy oeddwn i a chofleidio chwarae (sydd, yn fy marn i, yn ein gadael ni wrth i ni fynd yn hÅ·n) mewn byd dychmygol. Ail-ddychmygu a chreu hyn gan ddefnyddio tecstilau, ffurfio blancedi o gysur a thrugaredd a gwnïo diolchgarwch, cadarnhadau a barddoniaeth ynddo...Mae sut rydyn ni'n siarad â ni'n hunain ac yn cofleidio diolchgarwch, hunan-gadarnhadau a hunanofal mor bwysig. 'Y geiriau rydyn ni'n eu llefaru, sy'n dod yn dÅ· rydyn ni'n byw ynddo' - Hafez, bardd Persiaidd. Mae ein geiriau’n creu'r sylfeini mewnol yn ein byd ein hunain a’r hyn rydyn ni’n ei adlewyrchu ac yn disgleirio ohonom ni. Rwyf am ddathlu’r llewyrch a theimlo fy mod i’n deilwng ac yn perthyn. Nid label yn unig ydw i na fy anabledd cudd/anweledig, ond rwyf am ei gofleidio fel rhan ohonof i, nid ei guddio.. trwy lunio clytwaith o bwy ydw i. Rwy’n ymarfer hunanofal radical, gan greu fy noddfa fach fy hun.


Mae'r ffau yn gyfuniad synhwyraidd o weadau, patrymau a lliwiau gyda chwiltiau clytwaith wedi'u gwneud o fy hen ddillad, tinsel ffabrig o fy hen sgarffiau a dillad, hen flancedi crosio a sgwariau nain wedi'u gwnïo at ei gilydd, pom poms, gleiniau, golau, patrwm, barddoniaeth a chadarnhadau. Hen ryg Persiaidd fy nhaid y tu mewn i'r ffau gyda golau disglair, secwinau a drychau.


Mae rhai lluniau'n cynnwys fy nith fach Francesca, sy'n ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth, caredigrwydd a chwilfrydedd.
 

Mae'r darnau hyn wedi'u trwytho â chalon a chariad, eiliadau arbennig yn gwnïo'r cwilt â llaw gyda fy mam hyfryd Gayna.

​

Er cof am fy nhaid Miguel, cymeriad llawen mwy na bywyd a oedd yn teimlo fel cartref i mi.

IMG_5457.heic
IMG_5476.heic
IMG_5190.heic
IMG_5273.heic

Mwy am waith Naseem:

​

@nazeeba22

​

@zibacreativeuk

​

https://linktr.ee/Nazeeba

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page