
Celf DAC
Mae gan gelf y pŵer i herio'r agweddau negyddol sy'n creu rhwystrau i bobl anabl.
​
​Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn cynhyrchu celf sy'n rhannu profiad byw anabledd trwy gomisiynau ar gyfer artistiaid anabl, byddar a niwrowahanol. Rydym yn datblygu talent anabl ac yn arddangos gwaith artistiaid anabl yn ein harddangosfeydd teithiol cenedlaethol.
​
Nod DAC yw gwneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy hygyrch trwy greu cyfleoedd comisiwn ac arddangos hygyrch, annog defnyddio Dogfennau Hygyrchedd, a herio agweddau negyddol trwy waith celf sy'n rhannu profiad byw anabledd.
Cyfleoedd Presennol
​
Mae ceisiadau bellach ar agor am Arddangosfa Genedlaethol DAC: Effaith (2025-26)
​
​Bydd Effaith yn archwilio themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. Mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru gael gweld safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes.
​​​
Bydd dau ddarn o waith ychwanegol a gomisiynwyd - gyda chefnogaeth Amgueddfa Cymru a Chorsydd Calon Môn - hefyd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.

Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru 2024-25​​
Mae'r artistiaid wedi datblygu gwaith gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, gan weithio gyda gosodiadau celf cyfrwng cymysg, paentio a gludwaith, celf weledol amlgyfrwng, gair creadigol, gosodiad synhwyraidd, cerflunwaith gwaith crosio, cerflunwaith rhyngweithiol gwisgadwy, a mwy i archwilio eu profiadau ac i ddatblygu gwaith wedi'i greu ar y cyd.
Mae'r comisiynau’n archwilio amrediad o brofiadau gan gynnwys ADHD, awtistiaeth, gorsensitifrwydd amlsynnwyr, IAP a chyfathrebu, iechyd meddwl, dyslecsia, eco-bryder a’r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â chynddeiriogrwydd, llawenydd a chyfeillgarwch.
​
Dysgwch fwy am y gwaith drwy glicio ar y delweddau isod:









