Artist y Mis: Evrah Rose
- cerys35
- May 27
- 5 min read
Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.

Ein Hartist y Mis yw Evrah Rose! Y bardd, awdur a cherddor rap, enillodd Evrah Rose boblogrwydd cenedlaethol trwy ei waith sy'n taro’n galed a’i hegni di-ofn. Darllenwch y nodwedd isod i ddysgu mwy am waith Evrah, yr hyn sy’n dylanwadu arni, rhai o’i chyflawniadau anhygoel a newyddion cyffrous, gan gynnwys rhyddhad ei halbwm newydd 'Link In Bio' sydd allan nawr!
Barddoniaeth Evrah:
Gall fy marddoniaeth fod yn grai ar adegau, yn drwm ei thrawiad ac yn ysgogi meddyliau bob amser. Rwy'n ysgrifennu i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o faterion difrifol ac sy'n aml yn cael eu pallu. Rwy'n angerddol dros gydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol a Hawliau Dynol, sy'n amlwg bob tro rwy'n siarad neu'n perfformio'n gyhoeddus.
Sut ddechreuoch chi greu cerddoriaeth ac ysgrifennu?

Mae rhai o fy atgofion cynharaf a mwyaf annwyl yn ymwneud â cherddoriaeth. Roedd gen i gariad arbennig at Sybil pan oeddwn i'n blentyn bach a byddwn i'n gofyn i fy rhieni chwarae hi dro ar ôl tro yn y car, gan adlamu'n ôl a mlaen gyda llawenydd. Yn ail i hynny oedd Queen. Roeddwn i'n cysylltu â cherddoriaeth mewn ffordd ddyfnach nag unrhyw beth arall. Yn syml, roeddwn i wedi syrthio mewn cariad ag odl, ailadrodd a sain. Fy offeryn cyntaf erioed oedd tegan gitâr drydan du a choch pan oeddwn i tua 4 mlwydd oed. Roeddwn i wrth fy modd ag e!! Byddwn i'n aml yn gofyn i fy rhieni am offerynnau amrywiol wrth dyfu i fyny. Doeddwn i ddim yn gallu cael digon o archwilio synau.
Dechreuais roi pen ar bapur pan oeddwn i tua 8/9 mlwydd oed. Nid oedd hwn gyda'r bwriad o greu, ond i fynegi fy hun a'r pethau anodd roeddwn i'n eu profi. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i siarad â rhywun am sut roeddwn i'n teimlo a daeth tudalen wag yn wrandäwr, yn lle diogel a rhywbeth y gallwn i golli fy hun ynddo. Rhywbeth y gallwn i ymddiried ynddo. Mae gan bobl ffeuau, tai coed a mannau cyfforddus neilltuedig eraill fel eu lle diogel. Fy un i oedd, ac o hyd yw, ysgrifennu. Datblygodd fy niddordeb mewn rap dros amser a dechreuais ddefnyddio'r un strwythurau pennill â fy hoff artistiaid ar y pryd fel Eminem a Tupac, ond gan ysgrifennu fy ngeiriau fy hun i'w rhythmau. Dros amser, creais fy arddull a'm proses fy hun. Hwn sy 'di bod y ffrind gorau i mi ers hynny.
Beth yw rhai o'r dylanwadau allweddol ar eich gwaith?

Fy nylanwad mwyaf yw bywyd ei hun. Y profiad dynol crai hwnnw. Mae fy heriau personol fy hun wedi llunio fy ysgrifennu yn aruthrol. Mae wedi rhoi llwybr i mi fynegi a rhoi cyd-destun i sefyllfaoedd a theimladau na allwn eu lleisio na'u mynegi mewn ffordd arall. Ynghyd â hynny, ymdeimlad cryf o gyfiawnder. Gwnes i addewid pan ddechreuais fy ngyrfa greadigol i beidio â bod yn ddistaw mwyach ac i sianelu lleisiau eraill wedi'u distewi trwy fy ngwaith. Pobl sy'n fy ysbrydoli fwyaf. Rwy'n ysgrifennu i ddal yr emosiwn crai sy'n dod o lywio ein teithiau. Rwy'n ceisio cyseinio, ac ysbrydoli eraill gyda'r hyn sy'n ein cysylltu ni i gyd - gobaith.
Person sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi erioed yw fy nhaid. Roedd yn weithgar, yn ddalgar ac roedd ganddo synnwyr digrifwch bendigedig. Gallai e dynnu sylw at yr amgylchiadau mwyaf difrifol, gyda'i chwarddiad Mutley bob amser yn dilyn. Dyn o lawer o urddas, balchder, parch a chalon. Nid oedd byth unrhyw beth nad oedd yn ei wybod ac roedd straeon ei fywyd bob amser yn fy swyno. Bu farw yn 2019 ac rwy'n dal i geisio dod o hyd i'm ffordd mewn byd sy'n bodoli heb ei bresenoldeb corfforol. Nid oes terfyn amser ar alar, ond nid oes terfyn amser ar gariad chwaith.
Beth sy'n eich ysgogi i greu gwaith?

Dydw i ddim yn gwybod sut i beidio â chreu. Ni allaf am eiliad ddychmygu byd heb farddoniaeth a cherddoriaeth. Nhw yw gwreiddyn gwrthwynebiad, sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaeth. Mae gan gerddoriaeth a barddoniaeth y pŵer i newid y dirwedd o'n cwmpas. Nhw yw adroddwyr ein holl fodolaethau. Y bardd yw'r siaradwr, y peintiwr a'r bont rhwng poen a chymuned. Dyma yw gartref pob cri. Rwy'n cael fy ngorfodi i ysgrifennu'r byd, i ysgrifennu fy mhoen ac i leisio poen pobl eraill. Efallai ei fod yn swnio'n cliché, ond i mi, mae cerddoriaeth a barddoniaeth yn faeth. Nhw yw'r gwrthwenwyn. Nhw yw fy mhwrpas a fy rheswm i. Dyma sut rwy'n dod o hyd i resymeg mewn amgylchedd afresymol, a thawelwch yn yr anhrefn o fywyd. Dydw i ddim wedi fy ngwneud ar gyfer unrhyw beth arall.
Beth yw rhai o'r comisiynau a'r cyflawniadau blaenorol yr hoffech chi eu hamlygu?

Mae rhai o fy nghomisiynau yn cynnwys BBC Sport a BBC Cymru i nodi Camp Lawn Chwe Gwlad Rygbi Cymru yn 2019 (a ddarlledwyd ar BBC Two). Creu cerdd ymroddgar i FA Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 ac agor Gwobrau Chwarae Teg Womenspire gyda balchder am dair blynedd yn olynol ar ITV Cymru. Rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda nifer o elusennau mawr i dynnu sylw at wahanol faterion cymdeithasol, yn cynnwys anghenion tai cymdeithasol, digartrefedd ac iechyd meddwl.
Dau uchafbwynt fyddai agor opera New Sinfonia gyda cherdd a gomisiynwyd yn arbennig i goffáu 90 mlynedd ers trychineb mwyngloddio Gresford fis Medi diwethaf, ac ennill gwobr artist FJones y llynedd, sef moment mor falch i mi.
Beth ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd gan gynnwys newyddion a chyflawniadau cyfredol?
Rydw i wedi bod wrthi'n cwblhau traciau ar gyfer fy albwm newydd - Link In Bio, a chafodd ei ryddhau ym mis Mai. Mae'n gipolwg mwy personol ar i mewn i sut a pam, a pam yr ydw i. Rydw i hefyd yn paratoi i berfformio yn Focus Wales 2025 tra hefyd yn cynnal arddangosfa label o artistiaid llawr gwlad yn yr ŵyl - Red Roach & CBT presents.

Bydd fy ffilm geiriau llafar diweddaraf Invisible Me, hefyd yn cael ei ddangos yn ŵyl ffilm Focus Wales ar ôl cyfres wych o arddangosfeydd eleni, yng Ngŵyl Y Ferch, SYMUD, Pontio ac, yn fwyaf nodedig, Gŵyl Barddoniaeth Fideo Ryngwladol yn Athens. Invisible Me yn ffilm lafar sy'n darlunio natur greulon salwch cronig. Sut rydym mor aml yn cael ein gorfodi i "masgio" ein poen, y frwydr barhaus i ffitio i mewn i gymdeithas, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein lles emosiynol a'n hymdeimlad o hunaniaeth.

Yn ddiweddar, gwnes i gydweithio gyda'r cerddor pwerus Cymreig, Eädyth, ar drac o'r enw Lemonade sydd wedi derbyn y derbyniad mwyaf anhygoel gan BBC Radio Wales ac mae cynifer wedi anfon negeseuon i rannu faint maen nhw'n caru'r trac. Yn bendant bydd mwy o gydweithio yn y dyfodol rhyngom. Fedra i ddim aros i greu mwy gydag Eädyth!
Ar hyn o bryd rwy'n perfformio o gwmpas y DU gyda fy nghasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Define Hope ac ar fin lansio llyfr telyneg Link In Bio i gyd-fynd gyda'r albwm.
Rwy'n gweithio ar drac mewn cydweithrediad â'r cyfansoddwr electronig, Tom Day. Foment enfawr i mi gan fy mod wedi bod yn edmygwr o gerddoriaeth Tom ers nifer o flynyddoedd, sydd wedi fy ysbrydoli wrth ysgrifennu comisiynau.
Mae gen i gomisiwn sylweddol cyfrinachol rwy'n awyddus i ddweud wrth y byd amdano, ond rhaid i fi gadw e'n gyfrinach ar hyn o bryd. Felly, am y tro, gwnâi gadael chi gyda'r nodyn hwnnw.
Mwy o waith Evrah:
Instagram: @evrahrose
Facebook: www.facebook.com/evrahrose
YouTube: @EvrahRose
Bandcamp: evrahrose1.bandcamp.com
Invisible Me: https://youtu.be/vldgIHEg-xI?si=GWHpC_6gaac3YOA_
Dolennau i lyfrau:
Define Hope: https://vervepoetrypress.com/product/evrah-rose-define-hope-pre-order-out-may-23/?v=79cba1185463