Cefnogwch Gelfyddydau Anabledd Cymru trwy Easy Fundraising
top of page
Celfyddydau
Anabledd
Cymru
Y Sefydliad Arweiniol Celfyddydau Anabledd Yng Nghymru
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol a chyfartal lle mae Pobl Anabl a Byddar yn hanfodol i gelfyddydau ein cenedl.
Rydym yn cynhyrchu celf sy’n rhannu’r profiad byw o anabledd, rydym yn datblygu talent greadigol anabl a Byddar, ac yn darparu hyfforddiant hygyrchedd a chynhwysiant anabledd.
Dylai fod cydnabyddiaeth gyfartal i gelfyddydau anabledd o fewn y celfyddydau a dylai artistiaid anabl gael mynediad di-rwystr i gyfleoedd.
Mae’r model cymdeithasol yn esbonio nad yw pobl yn anabl oherwydd eu nam neu wahaniaeth, ond yn hytrach yn cael eu hanalluogi gan y rhwystrau cymdeithasol sy’n cyfyngu ar ein mynediad i gymryd rhan.
Mae hyn yn gosod y cyfrifoldeb ar gymdeithas ehangach i gynnwys pobl anabl a chreu mynediad drwy ddileu rhwystrau, p'un y bod y rhain yn rhwystrau corfforol neu agweddau negyddol.
Beth yw'r Model Cymdeithasol
o Anabledd?
Mae DAC yn cael ei arwain gan ac yn canolbwyntio ar anabledd. Rydym yn gweithio yn ôl y model cymdeithasol o anabledd ac yn gweld celf fel llwyfan a all herio agweddau negyddol, addysgu am rwystrau cymdeithasol, a chreu dyfodol hygyrch.
Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi rhwydwaith o dros 400 o aelodau.
Mwy:
bottom of page