top of page

Artist y Mis: Durre Shahwar

  • Feb 24
  • 9 min read

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.


Ein Hartist y Mis yw Durre Shahwar, awdur, golygydd ac artist arobryn y mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, ffurf naratif a gwleidyddiaeth cynrychiolaeth.


Yn ddiweddar, cafodd Durre ei harddangosfa unigol gyntaf, 'Un o'r Rhai Da', at Ffotogallery! Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y comisiwn a'r arddangosfa, yn ogystal â chlywed gan Durre am ei hymarfer, ei phrofiadau, ei haddysgu, ei Doethuriaeth, ac uchafbwyntiau cyffrous ei gyrfa hyd yn hyn.



Arddangosfa  'Un o'r Rhai Da':


Mae’r arddangosfa yn ymateb i archif Ffotogallery, ac yn myfyrio ar sut mae lleoliad, dogfennaeth, a symbolaeth yn cynrychioli ystyr gwahanol o dan fygythiad dilead a’r effaith o ymofyn noddfa.


Wrth wynebu colled a dad(leoliad), mae dogfennu deunydd a gwrthrychau sy’n ymddangos yn gyffredin llawn straen gan greu ymlyniad a datgysylltiad osgiliadol tuag atynt.


Mae haenu hunanffuglennol o destun a delweddau yn dal y broses o (ail)adeiladu hunaniaeth ac yn herio sut mae pŵer yn cael ei aseinio trwy ddogfennaeth. Yn y cyfamser, mae ailfapio seico-ddaearyddol Adamsdown, Caerdydd, yn dod yn safle ar gyfer cadw cof a naratif unigol o fewn profiad cyfunol.


Trwy broses o ailysgrifennu, ailymweld, ailgyflwyno, mae Un o’r Rhai Da yn mynd i’r afael â bylchau yn archif Ffotogallery gan gyflwyno gwrth-archif personol sy’n herio’r ffurfiau dominyddol o ddogfennu a neilltuo gwerth.


Am y comisiwn:


Ariannwyd y comisiwn hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o brosiect archif parhaus Ffotogallery. Datgelodd ymchwil i archif Ffotogallery ddiffyg amrywiaeth, gyda chymunedau fel pobl hoyw ac anabl wedi'u tangynrychioli yn y casgliad.


I fynd i'r afael â hyn, comisiynodd Ffotogallery ddau artist—un LHDTCIA+, un anabl—i archwilio'r archif a chreu gwaith newydd mewn ymateb. Bydd y darnau sy'n deillio o hyn yn cael eu caffael i'r casgliad, gan ehangu ac amrywio'r archif i adlewyrchu gwerthoedd a chenhadaeth Ffotogallery yn well.


Yn dilyn galwad agored, dewiswyd Durre Shahwar ar gyfer y comisiwn artistiaid Anabl, a dewiswyd Rhys Slade-Jones ar gyfer y comisiwn artistiaid LGBTQIA+, gyda Cwm Here Now yn cael ei ddangos ddiwedd y llynedd.



Llongyfarchiadau ar eich arddangosfa unigol ‘Un o’r Rhai Da’ at Ffotograllery! Sut brofiad gefaist ti o roi'r arddangosfa at ei gilydd?


Mae'r profiad wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Yn bendant bu adegau anodd gan fod y gwaith yn tynnu ar fy mhrofiad fy hun o geisio lloches a dinasyddiaeth ac yn tynnu ar wrthrychau, lleoliad, symbolaeth a delweddaeth sy'n gysylltiedig â'r profiad hynny. Roedd pwysau emosiynol ailymweld â rhywbeth nad wyf erioed wedi'i archwilio'n greadigol nac yn gyhoeddus yn drwm i'w gario, yn enwedig gan fod fy anhwylder pryder a phanig yn deillio, i ryw raddau, o'r profiad hwn. Fodd bynnag, creodd Ffotogallery lle i'r sgyrsiau hynny ddigwydd gyda gofal a myfyrdod drwy gydol y broses. Fe wnaethon nhw ymarfer ffordd o weithio a roddodd hyblygrwydd, ymreolaeth a rheolaeth i mi dros y naratif a sut y cyflwynwyd y gwaith, lle nad oedd unrhyw ddulliau anghywir, sef rhywbeth nad wyf wedi'u profi o'r blaen. Mae'r gwaith yn wrthdrefedigaethol nid yn unig o ran thema ond o ran ymarfer. Ac mae'r dull hwn yn bwysig, o ystyried bod pobl fel fi yn aml yn cael eu siarad drostynt, ein lleisiau'n aml yn cael eu cyfryngu trwy hwyluswyr neu gyfieithwyr neu ddehonglwyr sydd â bwriadau da. Rydym bob amser un cam i ffwrdd o allu adrodd ein stori ein hunain, a dyna pam roeddwn i'n teimlo mai dyma'r foment a'r lle cywir i adrodd stori fy hun.


Roedd yna hefyd y cwestiwn o herio sut i bortreadu'r profiad hwn - gan wrthod rhyw fath o trefedigaethedd ffotograffig neu hunan-dwyreiniaeth sy'n digwydd wrth bortreadu profiad ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n ein portreadu mewn goleuadau truenus neu drawmatig.


Wnes i dreulio lot o amser yn mynd trwy archif Ffotograllery, gan gymryd nodiadau, cymryd lluniau. Wrth fynd trwy’r archif, wnes i sylweddoli bod straeon cymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches Caerdydd ar goll. Dechreuais feddwl hefyd am y syniad o archif ei hun – pwy sy’n cael ei ddiffinio? Beth mae’n ei olygu y tu hwnt i dermau empirig a Gorllewinol? Pwy sy’n cael derbyn un, pan mae cael un yn ymddangos yn fraint? Pwy sy’n cael arddweud beth sy’n mynd ynddo? Sut y gall edrych y tu hwnt i ddogfennau neu ffotograffau?


Mae dogfennaeth yn derm mor dechnegol a glân ac fe'm hatgoffodd o broses fy nheulu o gael a sicrhau a darparu dogfennau pan wnaethon ni geisio lloches a dinasyddiaeth. Felly daeth hynny i gyd at ei gilydd yn y gwaith lle rwy'n cyflwyno gwrth-archif mewn ymateb i archif Ffotogallery, sy'n tynnu ar y symbol cyffredinol o ddadleoli ar ffurf bagiau golchi dillad yr oeddem hefyd yn cario ein pethau ynddynt, neu sied o wrthrychau sy'n archif i ni, neu amrywiad o luniau pasbort sy'n cyflwyno ac (ail)gyflwyno'r hunan.



A allech chi ddweud wrthym am y berthynas rhwng ysgrifennu a chelf weledol yn eich gwaith?


Am y cyfnod hiraf, roeddwn i'n eu gweld fel dau endid ar wahân, efallai oherwydd bod yna foment allweddol yn fy mywyd lle'r oedd yn rhaid i mi ddewis rhwng ysgrifennu neu gelf o ran yr hyn a astudiais yn y brifysgol. Dewisais ysgrifennu, a wnes i roi fy egni i gyd i mewn iddo am tua'r 8 mlynedd nesaf. Ond wnes i byth roi’r gorau i dynnu lluniau. Dechreuais roi sylw pwrpasol i sut roedd celfyddyd weledol yn rhan o fy ymarfer ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddechreuais ddibynnu mwy a mwy ar ddelweddau a gwaith gweledol i lunio darn ysgrifenedig. Byddwn i'n mynd drwy ffotograffau roeddwn i wedi'u tynnu wrth gerdded ar Lwybr Arfordirol Cymru yng Ngorllewin Cymru, er enghraifft, oherwydd roeddwn i eisiau disgrifio a chofio'n union pa mor las oedd y môr y diwrnod hwnnw. Daeth y ffotograffau yn ffordd o'm cludo'n ôl i'r amser a'r lle penodol hwnnw, a byddwn i'n defnyddio'r atgof hwnnw ar gyfer manylion ac i lunio naratif o'i gwmpas. Yn araf bach, helpodd hyn i fi i ddatgysylltu o wahanu rhwng y gweledol a'r ysgrifenedig. Rwy'n gweld ysgrifennu a gwaith gweledol fel ffordd o ailymweld â chof, dal eiliad mewn amser, ail-adeiladu ein synnwyr o'n hunan neu ein naratif neu ddod yn symbol o rywbeth mwy. Mae'r ddau, mewn ffordd, yn fath o archifo ac yn ffordd o fwrw golwg ar naratif o ongl benodol a allai fel arall fynd o le neu gael ei anwybyddu. Mae fy ysgrifennu’n aml yn eithaf darniog hefyd, ac rwy’n osgoi mynd i drafferth fawr i esbonio neu gyfiawnhau fy hun yn fy ngwaith – rhywbeth y dywedir wrthyf yn aml y dylwn ei wneud ac mae’n rhywbeth y bu’n rhaid i mi ildio iddo’n arbennig o ran ysgrifennu’n ‘academaidd’ yn ystod fy PhD. Mae'n ymddangos bod gan y byd academaidd sefydlogiad gyda gor-esbonio pethau mewn ffyrdd cymhleth. Mae fy ysgrifennu bob amser yn ceisio gwrthod hynny. Mae'n debyg dyna pam rwy'n cael fy nenu at y gweledol, lle gall y gwaith fod yn fwy agored i ddehongliad yn hytrach na gorchymyn.



Beth sy'n eich ysgogi i greu? A yw eich profiadau eich hun wedi llunio eich ymarfer?


Rwy'n creu mewn gwrthwynebiad i homogeneiddio ein profiadau a'n hunaniaeth. Mewn gwrthwynebiad i gategoreiddio, er bod categorïau'n ymddangos yn gynyddol anodd dianc rhagddynt ac yn aml rydym yn eu gorfodi arnom ein hunain. Mae profiad pawb yn unigryw ac ni fydd dwy stori byth yr un fath, sy'n wych oherwydd mae'n golygu bod lle i fwy bob amser. Rwyf hefyd yn creu i daflu goleuni ar bethau nad wyf yn teimlo eu bod yn cael eu dweud na'u darlunio gyda chymhlethdod na naws. Straeon sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Naratifau y mae angen edrych arnynt â'ch pen wedi'i gogwyddo ar ongl, bron, i'w deall yn iawn. Wrth wneud hynny, rwy'n ceisio herio straeon a lleisiau pwy sy'n cael eu llwyfannu.


Mae fy mhrofiadau fy hun yn ganolog i'm hymarfer. Dw i'n meddwl bod profiadau pawb felly, i ryw raddau. Efallai nad yw eraill mor ymwybodol neu amlwg. Ond mae pob celf yn bersonol i ryw raddau oherwydd ei bod yn dod oddi wrthym ni. Gall profiad byw fod yn wrthwynebiad i naratifau dominyddol, ond mae hefyd yn fath o ymchwil, ymarfer a data.


Rwyf hefyd yn credu bod teimlad o awdurdodi fel person o liw i gymryd gafael yn hynny – i ddweud bod fy mhrofiad byw wedi llywio fy ngwaith – mewn byd sydd eisiau i bobl fel fi fod yn dawel ac i ddiflannu a chrebachu o bob ongl. Profiais hyn yn uniongyrchol pan ddarllenais mewn siop lyfrau ar ddechrau fy ngyrfa bron i 8 mlynedd yn ôl, ac ar ôl hynny, daeth awdur profiadol iawn ataf a dweud bod tynnu ar fy mhrofiad yn 'dwyllo'. Wnes i gario hynny gyda mi am flynyddoedd a wnaeth bron â thagu fy ysgrifennu. Dros amser, sylweddolais fod y geiriau hynny wedi dod oddi wrtho ef yn gweld fy llais fel bygythiad ac nad oeddent yn adlewyrchiad o'r gwaith ei hun. Felly, rwy'n creu mewn gwrthwynebiad i hynny. Ac mewn gwrthwynebiad i gywilydd, distawrwydd, neu farn.



A allech chi ddweud wrthym am eich Doethuriaeth a natur eich ymarfer fel un sy'n cael ei arwain gan ymchwil?


PhD creadigol-feirniadol ydoedd, yn edrych ar gynrychioliadau o hunaniaeth Bacistanaidd-Gymreig drwy lens hunanffuglen. Defnyddiodd hunanffuglen ac ysgrifennu hybrid fel fframwaith i bortreadu sut mae hunaniaeth Gymreig-Bacistanaidd yn wahanol i hunaniaeth De Asiaidd Prydeinig, a sut mae lle, cof, hunaniaeth, yn ei llunio. Arweiniodd fy ymchwil at fonograff creadigol/beirniadol, a oedd nid yn unig yn darlunio'r hunaniaeth hybrid hon, ond hefyd ffyrdd o ysgrifennu fel darnio, naratifau aflinol, myfyrio beirniadol ac arbrofi sy'n siarad am yr hybridedd hwn. Fe'i cwblheais yn 2024, ond mae'r ymchwil wedi parhau a thrawsnewid.


Mae fy ymarfer yn cael ei arwain gan ymchwil trwy'r ystyr fy mod, fel gyda chomisiwn Ffotogallery, yn treulio dyddiau yn casglu ymchwil, darllen, deunydd, nodiadau, lluniau, sy'n teimlo ei bod yn fy amgylchynu'n llwyr ac yn y pen draw yn arwain at rywbeth gyda mwy o ffocws fel canlyniad. Mae fy ngwaith yn ganlyniad i fod mewn sgwrs â deunydd ymchwil – yr ymchwil yw’r man cychwyn yn aml. Ond rwy’n dehongli’r gair ‘ymchwil’ yn llawer mwy haniaethol na dim ond cyfnodolion academaidd neu archifau hyd yn oed. Mae’r ymchwil yn enw ac yn ferf a gall hyd yn oed fod yn mynd am dro.



A allech chi ddweud wrthym am 'Ysgrifennu er Llesiant: Straeon o Dde Asia' a'ch dull o ddylunio a hwyluso'r gweithdai hyn?


Roeddwn i eisiau creu lle i fenywod De Asiaidd dod at ei gilydd ac archwilio ysgrifennu a darllen barddoniaeth fel erfyn ar gyfer lles yn eu bywydau bob dydd. Arweiniodd llawer o'm cywilydd a'm distawrwydd fy hun ynghylch ag iechyd meddwl at beidio â gallu cael cymorth am amser hir, ac roeddwn i eisiau agor y sgwrs o fewn fy nghymuned i ffwrdd o fframweithiau clinigol a diagnosis y Gorllewin a chreu lle diogel i archwilio tabŵs a phynciau penodol. Mae ymchwil hefyd wedi dangos y gall ysgrifennu am brofiad personol am gyn lleied â 20 munud bob wythnos leihau straen yn sylweddol a gwella ansawdd bywyd a bod ‘atal neu ddal yn ôl meddyliau, teimladau neu ymddygiadau yn gysylltiedig â straen a chlefyd hirdymor’. Sylfaen fy ymarfer yw bod ysgrifennu yn ymgodol i fywyd, ac yn rhoi ymreolaeth inni dros ein naratifau a’n profiadau, ac yn caniatáu inni eu cyfleu i eraill, gan ein ‘dadlwytho’ a’n ‘dad-llesteirio’ ni – math o therapi celf. Felly, mae’r prosiect yn ceisio dod â hyn i gyd at ei gilydd.



Are there any projects that have been particular highlights for you, or that you feel have had a significant impact on your practice?


Ar wahân i'm harddangosfa Ffotogallery, sydd wedi bod yn allweddol iawn, treuliais 2025 yn datblygu fy ymarfer creadigol diolch i grant CCC. Galwyd y prosiect yn Iaith Weledol, a threuliais amser yn datblygu iaith weledol ar gyfer fy ngwaith sy'n dwyn ynghyd ddelwedd symudol a thestun. Rhoddodd y lle, yr amser a'r gefnogaeth i mi ddatblygu lensys, cyfryngau a thonau fy ymarfer a siarad ag artistiaid eraill heb feddwl am ganlyniad. Dyma hefyd y tro cyntaf i mi gael cymorth mynediad fel artist anabl, a gwnaeth wahaniaeth mawr gan ei fod yn golygu y gallwn fynd i weld gwaith heb rwystr. Rwy'n gobeithio parhau i ddatblygu'r gwaith hwn ac rwy'n agored i gydweithio.


Gorffennais 2025 gan gyd-gyflwyno cwrs ar-lein Ffuglen Hunangofiannol ar gyfer Llenyddiaeth Cymru gyda Meena Kandasamy. Rhan fawr o fy ymarfer yw addysgu a gweithdai, ac fe wnaethon ni gynllunio modiwl cyfan ar hunanffuglen ac ysgrifennu hunangofiannau, y byddaf yn parhau i'w ddatblygu a'i gyflwyno mewn amrywiol swyddogaethau ochr yn ochr â fy ngweithdai Ysgrifennu er Llesiant. Mae'n teimlo'n arwyddocaol oherwydd fy mod yn parhau i ddod o hyd i bethau newydd i'w dysgu a'u haddysgu am hunanffuglen ac mae ei addysgu yn dod yn rhan o ymchwil a datblygu ar gyfer fy ymarfer.


Mae cerdd i mi am fyw gyda phryder ac anhwylder panig yn cael ei chyhoeddi yn yr antholeg, Chronic Women (2026, Honno). Mae'n dod â 14 o feirdd ynghyd i eangu lleisiau menywod sy'n byw gyda chyflyrau iechyd cronig yng Nghymru. Wedi'i chefnogi gan Lenyddiaeth Cymru a'i churadu gan Hanan Issa a Gwyneth Lewis.


Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio ar fy llyfr ffeithiol cyntaf, sy'n ymwneud ag iaith, hunaniaeth, a pherthyn. Cymerais seibiant ohono am ychydig, gan fod y llyfr wedi dod i fodolaeth o ganlyniad i fy PhD. Fodd bynnag, nawr rydw i'n dychwelyd at y llyfr gyda safbwynt ffres a datgysylltiedig lle gallaf edrych ar bethau'n wahanol, gwneud newidiadau, a gollwng gafael ar rai pethau yr oeddwn yn eu dal yn rhy agos ataf.


Dysgwch yn fwy am waith Durre:





Gathering: Women of Colour on Nature: https://www.404ink.com/store/p/gathering




Gwobr Morley & gwaith ar lyfr ffeithiol gyntaf: https://www.morleycollege.ac.uk/morley-prize-for-unpublished-writers/


Gallwch hefyd gweld gwaith Durre 'Matka' at Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru, sy'n cael ei arddangos yn bresennol at Galeri, Caernarfon.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page