Lansiad Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)
- cerys35
- 4 days ago
- 2 min read
Updated: 1 day ago
Lansiad: dydd Gwener 6 Chwefror, 6yh, Galeri Caernarfon
Taith Iaith Arwyddion Prydain Galeri, Caernarfon: 28/03/26 (amser i'w gadarnhau)
Mae Effaith yn arddangosfa sy'n dangos safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes: yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn galwad agored, detholwyd artistiaid anabl, b/Byddar a niwrwahanol i ymateb i themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. Bydd yr arddangosfa hefyd yn arddangos dau gomisiwn a grëwyd ar gyfer prosiect Effaith Celfyddydau Anabledd Cymru, un mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac un mewn partneriaeth â Chorsydd Calon Môn.
Mae'r arddangosfa hefyd yn arddangos dau gomisiwn a grëwyd fel rhan o brosiect Effaith, un mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac un mewn partneriaeth â Chorsydd Calon Môn.
Mae’r comisiwn gydag Amgueddfa Cymru wedi’i cefnogi gan CELF, partneriaeth oriel gelf gyfoes cenedlaethol Cymru sy’n gweithio gyda’n cynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt i gynyddu mynediad at y gweithiau celf yn y casgliad. Creodd y comisiwn hwn gyfle i'r artist ymateb i thema Effaith a'r Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru. Kathryn Ashill wnaeth derbyn y comisiwn yma ac mae wedi creu gwaith sy'n archwilio'r corff anabl a'i berthynas â chyrff dŵr naturiol.
Mae comisiwn Corsydd Calon Môn yn tynnu sylw at unigrywiaeth a bregusrwydd corsydd Ynys Môn. Mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy'n anelu at sicrhau dyfodol Corsydd Ynys Môn a dathlu eu hanes toreithiog. Mae'r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl a natur, gyda'r cynefin prin hwn yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Catherine Taylor Parry wnaeth derbyn y comisiwn ac mae wedi creu gwaith sy'n ymateb i doreithrwydd yr amgylchedd ac yn myfyrio ar y gors fel cofnod naturiol o amser.
O Chwefror 2026 i Fawrth 2027, bydd arddangosfa Effaith yn teithio ledled Cymru i bum oriel Cymraeg mwyaf blaenllaw: Galeri, Caernarfon; Tŷ Pawb, Wrecsam; g39 Caerdydd; Glan yr Afon, Casnewydd; a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Artistiaid dethol:
Adele Vye, Alison Robertson, Bev Bell Hughes, Beverly Marmont-Hill, Catherine Taylor Parry, Catrin Gwilym, Cerian Lloyd, Cheryl Beer, Dea Neile-Hopton, Durre Shahwar, Eileen Harrisson, Emma Frayne-Ford, Grant Lambie, Jane Campbell, Jamie Lawrence, Jill Powell, Linda and Bethany Sutton, Polly Hill, Rhowan Alleyne on behalf of Ceredigion Animation Club, Rohan Powell, Sally Pearce, Tracey McMaster
Gyda diolch i ddetholwyr yr arddangosfa:
Dr. Kate Brehme, BerlinKlusion, Yr Almaen
Bethany Handley, Awdur / Bardd / Ymgyrchydd Anabledd, Cymru
Arty Jen Jo, Artist, Cymru



