Artist y Mis: Rachel Carney
- cerys35
- Dec 1, 2025
- 5 min read
Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.
Ein Hartist y Mis yw Rachel Carney!

Bardd, artist gweledol, academydd a thiwtor ysgrifennu creadigol yw Rachel Carney. Mae ei chasgliad barddoniaeth Octopus Mind yn archwilio cymhlethdodau niwrowahaniaeth, canfyddiad a'r meddwl dynol, ac fe'i dewiswyd fel un o Lyfrau Barddoniaeth Gorau The Guardian yn 2023. Yn 2021 enillodd Rachel Gystadleuaeth Farddoniaeth y Gymdeithas Cyn-Raffaëlaidd, daeth yn 2il yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Bangor a chafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobr Farddoniaeth Lerpwl. Mae dwy o'i cherddi hefyd wedi’u rhoi ar restr fer Gwobr Bridport, ac un gerdd wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Forward, yn ogystal ag ennill lle mewn sawl cystadleuaeth arall.
Sut wnaethoch chi ddechrau ysgrifennu?
Rydw i wastad wedi bod yn ysgrifennwr, ond am nifer o flynyddoedd ceisiais gyflwyno cerddi a straeon i gylchgronau heb lwyddiant. Astudiais ysgrifennu creadigol yn y brifysgol, a mwynheais bob munud ohono, ond yna penderfynais ddilyn gyrfa alwedigaethol 'normal' mewn gwaith amgueddfa. Yn ystod yr adeg yna, wnes i stopio ysgrifennu a rhoi'r gorau i'm breuddwyd o ddod yn awdur cyhoeddedig.
Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, cefais fy niswyddo, a digwydd lan gweithio mewn rôl llawer llai diddorol. Roeddwn i'n awyddus i gael rhyw fath o allfa greadigol, felly creais i flog llyfrau – www.createdtoread.com. Yn raddol, rhoddodd y broses o adolygu llyfrau pobl eraill yr hyder i mi ddod nôl at fy ysgrifennu fy hun. Dechreuais berfformio mewn nosweithiau meic agored, a dechreuais ysgrifennu, golygu a chyflwyno eto. Dwi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
A allech chi ddweud mwy wrthym am eich cwrs 'Ysgrifennu Niwrowahaniaeth' a defnyddio barddoniaeth fel modd o brosesu profiad byw? A yw hyn yn rhywbeth sy'n bwysig yn eich ymarfer creadigol?

Fy ngreddf naturiol ar gyfer pob sefyllfa yw ei harchwilio trwy farddoniaeth. Hyd yn oed os na fydd y cerddi byth yn cael eu cyhoeddi, gall y weithred o'u hysgrifennu fod yn ddefnyddiol, mewn ffordd therapiwtig. Pan gefais ddiagnosis o ddyspracsia yng nghanol fy 30au, roedd yn brofiad mor rhyfedd. Roeddwn i'n ceisio delio â'r hunanwybodaeth newydd hon, ac ar yr un pryd roeddwn i'n dysgu sut i eiriol drosof fy hun ac eraill. Fe wnaeth ysgrifennu cerddi am y profiad hwn (cyhoeddwyd rhai ohonynt yn y pen draw yn Octopus Mind) fy helpu i archwilio beth oedd yn ei olygu hawlio labeli fel 'dyspracsia', 'niwrowahanol', ac 'anabledd cudd' i mi fy hun. Fe wnes i ddod o hyd i'r iaith oedd ei hangen arnaf i ddechrau wynebu'r hen stereoteipiau, a mynegi fy mhrofiad fy hun.
Mae profiad pawb o niwrowahaniaeth yn wahanol. Roeddwn i eisiau creu cwrs lle gallaf annog eraill i ddefnyddio'r un offer barddonol hyn i archwilio eu taith niwrowahanol eu hunain. Yn bwysicaf oll, mae'r cwrs ar agor i bobl ar unrhyw gam yn y broses hon, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi derbyn diagnosis swyddogol eto. Nod y cwrs yw creu gofod diogel a chefnogol lle gallwn ddechrau cyfleu, mynegi ac archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn niwrowahanol, wrth fyw mewn byd niwrotypaidd.
Sut fyddech chi'n adfyfyrio ar brofiad eich PhD?
Rydw i wastad wedi cael diddordeb mewn ysgrifennu barddoniaeth sy'n ymateb i gelf weledol (a elwir yn 'ekphrasis') ac mae gen i hefyd sawl blwyddyn o brofiad o weithio mewn amgueddfeydd. Daeth y PhD â'r ddau ddiddordeb hyn at ei gilydd. Dechreuodd gyda chwestiwn syml: Sut allai barddoniaeth ein helpu i ymgysylltu â chelf mewn amgueddfeydd? Cynhaliais arolygon a chyfweliadau ar-lein, sefydlais arddangosfa farddoniaeth ryngweithiol yn un o orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a dadansoddais ymatebion creadigol pobl i'r gelf ac i destunau ei gilydd.
Interactive poetry display that took place at National Museum Cardiff in 2022

Wedyn defnyddiais ddulliau creadigol i ddadansoddi'r holl ddata. Arweiniodd yr ymchwil hwn i arbrofi yn fy ymarfer ysgrifennu fy hun, hefyd. Yn ogystal ag ysgrifennu cerddi, a llunio cerddi collage o'r geiriau ychwanegodd ymwelwyr amgueddfa at yr arddangosfa, des i o hyd i ffyrdd o ymateb yn weledol, trwy gollage. Yn y pen draw, creais gasgliad o wrthrychau barddoniaeth 3D gweledol, yr wyf wedi'u harddangos mewn amrywiaeth o leoliadau, ynghyd â gwahoddiad ymhellach i wylwyr ryngweithio.
Dechreuais y PhD fel awdur, ac mae wedi fy arwain i ehangu fy ymarfer i gynnwys celfyddyd weledol a rhyngweithiol. Fe arweiniodd hefyd i fi ddatblygu fy ymarfer mewn perfformio a'r gair llafar. Roedd prosiect diweddar yn cynnwys arddangosfa o 'Poem Under Construction' - grât wedi'i orchuddio â geiriau collage. Arddangoswyd y darn fel rhan o arddangosfa Hadau 2025, a gwahoddwyd gwylwyr i ychwanegu eu cyfraniadau. Unwaith y daeth yr arddangosfa i ben, ffurfiais yr holl gyfraniadau hyn yn ddarn gair llafar y gallwch wrando arno ar-lein. https://createdtoread.com/poem-under-construction-an-interactive-artwork/
A allech chi ddweud mwy wrthym am eich comisiwn gyda SHAPE Arts?
Cysylltodd SHAPE Arts â mi i ddweud eu bod nhw â diddordeb yn fy ymchwil PhD. Doedd gen i ddim syniad go iawn i ble y gallai ein sgwrs gychwynnol arwain, ond yn y pen draw fe wnaethon nhw gynnig comisiwn i mi. Roedden nhw mor gefnogol a calonogol. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth a fyddai’n fy ngalluogi i ehangu’r sgwrs gelf/barddoniaeth ekphrastig bresennol roeddwn i eisoes wedi’i dechrau gyda’r PhD. Roeddwn i hefyd eisiau gwthio fy hun allan o fy mharth cysur creadigol, i roi cynnig ar rywbeth newydd, ac roeddwn i eisoes wedi eisiau creu ffilm farddoniaeth.


Mae'r ffilm ‘Fragments of Us’ yn canolbwyntio ar y broses o greu. Mae'n gynrychiolaeth weledol a chlywedol o agweddau perthynol ekphrasis. Roeddwn i eisiau iddi ddangos sut y gall cerddi a ysgrifennwyd mewn ymateb i gelf ein helpu ni nid yn unig i ymgysylltu â'r gelf, ond hefyd i ymgysylltu â'n gilydd.
Mae'r troslais wedi'i ffurfio o ddwy o fy ngherddi collage, lle cymerais yr holl ragenwau lluosog 'ni' ac 'ein' o destunau ymwelwyr amgueddfa, a'u dwyn ynghyd. Gallwch ddarllen mwy am y broses o greu'r ffilm ar fy mlog: https://createdtoread.com/extending-the-ekphrastic-conversation-with-shape-arts/
Gwyliwch y ffilm yma - https://www.shapearts.org.uk/Blog/watch-fragments-of-us
Gallwch hefyd ddysgu mwy am ekphrasis yn y blog hwn, a gwrando ar (neu ddarllen) tri o fy ngherddi ekphrastic: https://www.shapearts.org.uk/blog/art-inspiring-art-what-is-ekphrasis
Pa ddiweddariadau allwn ni cadw golwg amdanynt dros y misoedd nesaf?
Rwy'n gweithio ar bedwar llyfr gwahanol ar hyn o bryd, gan gynnwys dau gasgliad o farddoniaeth, ond ni allaf ddatgelu unrhyw fanylion eto. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cyfleoedd cydweithio, ar draws ffurfiau celf, felly os oes gan unrhyw un brosiect, ac yn chwilio am fardd sydd â diddordeb cryf mewn celfyddyd weledol, perfformio a rhyngweithiol, cysylltwch â mi. Am berfformiadau a darlleniadau cyhoeddus sydd ar ddod, dilynwch fi ar gyfryngau cymdeithasol, neu tanysgrifiwch i'm blog.
Dwi'n gwneud cryn dipyn o addysgu ar hyn o bryd, a byddaf yn cynnal pedwar cwrs ysgrifennu creadigol ar-lein yn 2026: https://createdtoread.com/about/events-workshops-projects/
· Ysgrifennu Niwroamrywiaeth: Prosesu Profiad Byw trwy Farddoniaeth (10 gweithdy wythnosol, yn dechrau 27ain Ionawr) ar gael i'w archebu nawr
· Ysgrifennu Barddoniaeth 2: Arbrofi gyda Ffurf a Thechneg (cyflymder eich hunan, yn dechrau 2il Chwefror) ar gael i'w archebu o 1af Rhagfyr.
· Ysgrifennu Barddoniaeth 3: Gwthio Ffiniau Barddonol (cyflymder eich hunan, yn dechrau 3ydd Mai) ar gael i'w archebu o ddechrau mis Mawrth.
· Wedi'i Ysbrydoli gan Gelf: Barddoniaeth a Rhyddiaith Ekphrastic (cyflymder eich hunan, yn dechrau 11eg Mai) ar gael i'w archebu o ddechrau mis Mawrth.
Cyfryngau Cymdeithasol:
Instagram – https://www.instagram.com/createdtoread/
Facebook - https://www.facebook.com/createdtoread









