Artist y Mis: Am
- cerys35
- Nov 12
- 2 min read
Am ein nodwedd Artist y Mis Tachwedd rydym yn tynnu sylw at waith bendigedig un o'n haelodau sefydliadol: Am - cartref digidol diwylliant Cymru.
Mae Am yn gartref i gymuned o sefydliadau creadigol a chymdeithasol o Gymru. O lenyddiaeth i theatr i gerddoriaeth, mae’r cyfan ar gael i bawb, mewn un lle: ambobdim.cymru
Mae Am yn gweithio gydag aelodau DAC i wella hygyrchedd ei wefan. Mae ei wefan hefyd yn hybu gwaith aelodau DAC, gan gynnwys nodweddion Artist y Mis a chomisiynau. Mwy isod:
Panel Ymgynghorol Am

Yn ddiweddar, lansiodd Am ei Panel Ymgynghorol newydd, sy'n canolbwyntio ar wella hygyrchedd gwefan Am a chryfhau cynrychiolaeth unigolion Byddar, anabl, a niwroamrywiol yn y celfyddydau.
Bydd y panel, sy'n cynnwys cyfranogwyr Byddar, anabl, a niwroamrywiol, yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda sesiynau'n cael eu cynnal yn Saesneg a Chymraeg, gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Mae'r sesiwn gyntaf wedi'i threfnu ar gyfer mis Rhagfyr. Yn dilyn y sesiynau, bydd adroddiadau cryno yn cael eu cyhoeddi yn adran ‘Blog’ Am, gan rannu mewnwelediadau a chanfyddiadau allweddol yn gyhoeddus. Er mwyn diogelu preifatrwydd, bydd yr holl gyfranogwyr yn aros yn ddienw.
Dysgwch fwy am Panel Ymgynghorol Am a chyfleoedd eraill trwy Am ar eu gwefan nawr.
Gwefan newydd Am: Cartref digidol diwylliant Cymru

O 75 i dros 480 o bartneriaid creadigol, mae Am wedi trawsnewid y ffordd y mae pobl yn darganfod celfyddydau Cymru ar-lein. I nodi ei bumed pen-blwydd, ail-lansiwyd ei wefan a lansio ei ŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed: AmCam.
Am yw'r platfform cyntaf o'i fath – gofod digidol dwyieithog, mynediad agored ar gyfer archwilio cyfoeth diwylliant Cymru, o gerddoriaeth a theatr i ffilm, celf a llenyddiaeth. Wedi'i lansio yn 2020 gyda dim ond 75 o bartneriaid creadigol, mae bellach yn gartref i fwy na 480 o sefydliadau ac 8,000 o ddarnau o gynnwys, gan ei wneud yn fan hanfodol argyfer creadigrwydd, cysylltiad a chydweithio.
Gan edrych ymlaen, mae Am yn canolbwyntio argynyddu ei gyrhaeddiad a'i effaith – adeiladu partneriaethau newydd, cefnogi artistiaid ar bob lefel, a dangos beth all platfform diwylliannol cenedlaethol yng Nghymru fod mewn gwirionedd.
Dysgwch fwy am Am, y wefan newydd a gŵyl AmCam yn: ambobdim.cymru.
AmCam:
Yn gynharach eleni, lansiodd Am AmCam, sef gŵyl ffilmiau digidol yn rhannu ffilmiau dogfen fyrion am gelf ar yng nghymunedau Cymru. Yn y rownd gyntaf, darlledwyd ffilmiau gan Ffion Pritchard, Mariéad Ruane, Jon Berg a Harriet Fleuriot. Roedd rhain yn dogfennu ystod eang o gelf - o weithdai celf yn trafod hunan-werth merched ym Mangor i gymuned o arlunwyr a cherflunwyr yn byw yng Nghwmllynfell. Gallwch wylio holl ffilmiau’r rownd gyntaf yma https://www.ambobdim.cymru/discover/amcam/
Mae Am yn edrych ymlaen i ddarlledu AmCam2, yn cynnwys ffilmiau iaith Gymraeg gan Lauren Heckler, Gwenno Llwyd Till, Lily Tiger T Wells a Hannah Mefin yn ogystal ag AmCam3, rownd yn benodol am gerddoriaeth yng nghymunedau Cymru, yn y flwyddyn newydd.







