top of page
HWB
Newyddion, Digwyddiadau a Chyfleoedd



Cult Cymru: Mentora i Bobl Greadigol – Ceisiadau nawr ar agor
Roedd rhaglenni blaenorol yn canolbwyntio ar aelodau sy’n gweithio yn y diwydiant sgrin ond mae M4C yn agored i’r rhai sy’n gweithio ar draws theatr, adloniant byw a cherddoriaeth yn ogystal â sgrin.
Jun 23


Grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant 2026
Mae rhaglen Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant yn cefnogi ymarferwyr creadigol, gweithwyr proffesiynol ym maes diwylliant, artistiaid, sefydliadau, gwyliau, gwyliau dwyflynyddol, hybiau a mentrau cydweithredol i gyflawni prosiectau ar draws amrywiaeth eang o themâu a ffurfiau celfyddydol.
Jun 23


Cripping Culture: A Journey into Disability Arts Heritage
Nod y prosiect yw ymchwilio a datgelu cyflawniadau'r artistiaid a'r ymgyrchwyr anabl a roddodd hawliau anabledd ar y map, o ddiwedd y 1970au ymlaen.
Jun 23


Oriel Myrddin: Cyfarwyddwr Oriel
Bydd y rôl arweinyddiaeth uwch hon yn siapio gweledigaeth, strategaeth a dyfodol yr oriel wrth i ni sefydlu ein hunain fel Sefydliad Elusennol Integredig annibynnol ac agor ein hadeilad newydd a adnewyddwyd.
Jun 17


Prentis Technegol: Canolfan Mileniwm Cymru
Prif nod y brentisiaeth hon yw eich helpu i feithrin sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy trwy ddysgu ymarferol sy’n seiliedig ar waith, mewn amgylcheddau cynhyrchu byw.
Jun 10


Galwad am Gyflwyniadau: Dangosiadau Ffilm Gŵyl Gelfyddydau Rhondda
Ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau, animeiddiwr, neu adroddwr straeon gweledol sy'n byw yn y Rhondda neu ychydig i lawr y ffordd? Rydyn ni eisiau rhoi eich gwaith ar y sgrin fawr!
Jun 10


Taith IAP ac arddangosfa Paul Eastwood Dad-ddarlleniadau gyda Our Visual World at Mostyn
Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar ddangos, ei gyd-destun, a chipolwg ar ymarfer a chefndir yr Artistiaid.
Jun 9


Rheolwr Cynhyrchu - Carnifal Butetown
Mae’r rôl yn cwmpasu’r cylch cynhyrchu cyfan: logisteg artistiaid a digwyddiadau, cydlynu gweithdai, cefnogaeth i wirfoddolwyr, cyfathrebu, gweinyddiaeth a chefnogi gofynion ariannu ac adrodd.
Jun 9


Preswyliad i Artistiaid: Penuel Lane Studios
Mae Preswyliad i Artistiaid Studios Lôn Penuel yn agored i artistiaid sydd â diddordeb mewn ymwneud â’r gymuned a chyd-greu.
Jun 9


Rhaglen Fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal – Ceisiadau ar agor ar gyfer 2026-2027
Ein cenhadaeth yw cynyddu cynrychiolaeth pobl o gefndiroedd amrywiol a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
Jun 8


Bethany Handley 'My Body is a Meadow: Finding Freedom in the Outdoors'
Heddiw, mae bron i un o bob pedwar o bobl yn y DU yn anabl. Mae hawliau tramwy cyhoeddus wedi'u rhwystro mewn 32,000 o leoedd ledled Cymru a Lloegr. Mae My Body is a Meadow yn ysgrifennu i'r dirwedd hon.
Jun 8


g39 - Intern Oriel
Mae g39 yn penodi Intern Oriel i’n cefnogi ni yn ystod 2026. Wedi ei strwythuro er mwyn cefnogi’r rheiny sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y sector celfyddydau gweledol, mae’r swydd yn cynnig hyfforddiant, profiad ymarferol a mewnwelediad at brosesau gweithredol a chreadigol g39.
May 20


Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ceisiadau am Fwrsariaethau Caeredin 2026
Bydd y rhai llwyddiannus yn mynd i’r Ŵyl rhwng 20–27 Awst 2026 yn rhan o ddirprwyaeth o Gymru.
May 20


Cynorthwyydd Cylchgrawn:: Folding Rock Magazine
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm Folding Rock ac i gael profiad ymarferol yn y diwydiant creadigol.
May 19


Cwmni Pendraw: DNA - Darganfod cyfrinach bywyd
Gallwch ddisgwyl drama, gwrthdaro, cariad a cherddoriaeth fyw yn nwylo Cwmni Pendraw.
Cynnwys BSL: Nos Wener 29 Mai, 7.30pm
May 18


Arddangosfa Agored Oriel Myrddin
Rydym yn gyffrous i wahodd cyflwyniadau gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled Cymru ar gyfer ail Arddangosfa Agored Oriel Myrddin.
May 13


Cyfansoddi Caneuon
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer cyfansoddwyr caneuon o bob lefel; o'r profiadol i'r rhai sydd ysgrifennu cân am y tro cyntaf
May 12


Swydd wag: Swyddog Celfyddydau Gweledol Storiel
Cyngor Gwynedd Economi a Chymuned, Amgueddfeydd a'r Celfyddau
Dyddiad cau: 21/05/2026, 10:00
May 12


Under Milk Wood - Theatr Bryn Terfel
Bydd pob sioe yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Sain Ddisgrifiad a chapsiynau, wedi’u hintegreiddio yn rhan o ddyluniad y sioe. Byddwn hefyd yn cynnal Clwb Theatr Byddar cyn y perfformiad ar nos Iau 21 o Fai.
May 6


Dyddiau Du Press - Galwad Agored
Ar hyn o bryd mae gan Dyddiau Du alwad agored ar gyfer eu rhifyn cyntaf, gyda'r dyddiad cau ar ddydd Gwener 10fed o Fai. Mae cyflwyniadau ar agor i ryddiaith, traethodau, barddoniaeth, ysgrifennu celf a chelf weledol gan awduron ac artistiaid o Gymru/sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu unrhyw un sydd â chysylltiad â Chymru fel arall. Rydym wrth gwrs yn annog cyflwyniadau gan artistiaid ac awduron B/byddar, Niwrowahanol, ac Anabl.
Apr 22
bottom of page
