Amser i Siarad x Galeri: Synwyriwm
- 4 days ago
- 2 min read
Awdur: Galeri
Closing date: Dydd Iau 12fed Mawrth am 10pm
Galwad am Artistiaid a Hwyluswyr Creadigol – Synwyriwm
Prosiect Celfyddydau, Iechyd a Llesiant gydag Amser i Siarad, Galeri Caernarfon a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd.
Ynglŷn â Synwyriwm
Mae Synwyriwm (“sensorium”) yn adeiladu ar brosiect peilot llwyddiannus ac yn symud i gyfnod newydd o greadigrwydd, natur, llesiant, a chysylltiad cymunedol. Hoffem annog ffocws cryf ar y synhwyrau - mae ymgysylltu synhwyraidd ymwybodol â thirwedd, deunyddiau a sain yn cefnogi sylfaenu, gwydnwch ac adferiad iechyd meddwl. Anogir cynnal pob sesiwn yn yr awyr agored er mwyn dyfnhau perthynas cyfranogwyr â'r amgylchedd naturiol.
Bydd cyfranogwyr sy'n profi problemau iechyd meddwl cymedrol yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid mewn cyfres o weithdai cydweithredol sy’n canolbwyntio ar y synhwyrau, wedi'u hysbrydoli gan erddi, tirwedd a threftadaeth Plas Newydd.
Mae llesiant yr artistiaid wrth wraidd y prosiect. Bydd cyfres o ddiwrnodau hyfforddi a datblygu yn helpu’r artistiaid i ymgorffori dulliau sy’n canolbwyntio ar lesiant yn eu hymarfer, gyda digon o gyfleoedd i rannu sgiliau a dysgu gyda’i gilydd.
Bydd y prosiect yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda dwy arddangosfa deithiol gyhoeddus yn Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, gan ddathlu lleisiau cyfranogwyr a herio stigma o gwmpas iechyd meddwl.
Manylion:
Rydym yn chwilio am unigolion empathig a chreadigol (unrhyw ffurf gelf) i gynnal ac arwain gweithdai, ac mae’n hanfodol gallu gweithio’n gydweithredol â chyfranogwyr, gan roi gwerth ar y broses yn hytrach na’r cynnyrch terfynol.
Lleoliad – Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, Ynys Môn
Ffi - £300 y gweithdy (diwrnod llawn)
Bydd angen i chi fod ar gael i hwyluso gweithdai rhwng Mai - Tachwedd 2026
Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer taith Plas Newydd ar Fawrth 27ain.
Bydd angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg. (Rydym yn cefnogi dysgwyr Cymraeg).
Dyddiad cau: Dydd Iau 12fed Mawrth am 10pm
Mwy o wybodaeth ac ymgeisio: https://www.galericaernarfon.com/eng/synwyriwm.html



