top of page

Criw Celf

  • Jan 21
  • 2 min read

Awdur: Citrus Arts

Dyddiad cau: 06/02/26


Sefydliad celfyddydau yn y Cymoedd yn chwilio am bobl ifanc sydd eisiau tanio eu gyrfaoedd creadigol drwy interniaeth gyda thâl.


Mae, Citrus Arts, yr elusen celfyddydau a sgiliau creadigol o Bontypridd, yn chwilio am bobl ifanc sy'n chwilio am her newydd neu am yrfa yn y celfyddydau i ymuno a'u cynllun hyfforddi sgiliau celf technegol rhad am ddim.


Bydd y cwrs yn cael ei redeg o'r brif swyddfa yn Nhrehopcyn, Pontypridd, yn rhad ac am ddim i bobl rhwng 18 a 30 oed, a bydd yn cael ei arwain gan rai o diwtoriaid blaenllaw celfyddydau awyr agored a syrcas yng Nghymru.


Yn rhedeg drwy fis Chwefror a mis Mawrth, bydd y cwrs yn helpu'r bobl ifanc i ddechrau eu gyrfaoedd yn y celfyddydau, a bydd yr hyfforddeion sy'n cymryd rhan yn derbyn lwfans hyfforddi o £300 yr wythnos.


Bydd cwricwlwm y cwrs yn cynnwys llusernau, goleuo a thân, rigio syrcas a phwysau gwrthbwyso, yn ogystal â dysgu am fframwaith gŵyl a'r ochr gynhyrchu. Byddant hefyd yn dysgu llawer o sgiliau eraill y gellir eu defnyddio ym maes digwyddiadau awyr agored thu hwnt.


Meddai Beth House, Cyfarwyddwr Gweithredol Citrus Arts: “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cael cymaint o bobl ifanc anhygoel yn cerdded drwy'r drws a chael cyflwyniad go iawn i yrfa yn y celfyddydau – gyda llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael swyddi yn y maes.”


“Does dim angen unrhyw brofiad yn y celfyddydau, ond rydym yn disgwyl brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu, a diddordeb cryf mewn dysgu am sut mae gwyliau, gosodiadau celfyddydol, a digwyddiadau awyr agored yn cael eu trefnu.”


Ychwanegodd Beth: “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda sefydliadau celfyddydol megis Gŵyl Afon Dyffryn Gwy, From the Fields, sy'n dyfeisio ac yn cynnal Nadolig Parc Bute, yn ogystal â gŵyl Green Man.


“Roedd yr adborth gan griw llynedd yn bositif iawn, ac ni'n edrych ymlaen yn arw i groesawu pobl ifanc newydd drwy'r drysau yn y misoedd i ddod.”


Mae Citrus Arts yn awyddus i weithio gyda phobl ifanc a allai fod wedi’u dadrithio â chyfleoedd hyfforddi arferol ac erioed wedi ystyried y celfyddydau fel gyrfa bosib. Mae’r cyrsiau hyfforddi yn helpu’r hyfforddeion i ddarganfod talentau creadigol, ac yn eu helpu i weld y celfyddydau creadigol fel gyrfa posib ac yn eu cyflwyno i amryw o gyflogwyr posibl.


Dywedodd un o gyfranogwyr y cwrs y llynedd am eu profiad: "Dydw i erioed wedi gweithio yn y math yma o faes o'r blaen, ac mae digwyddiadau byw a gwyliau awyr agored yn gwbl newydd i mi, i ddweud y gwir dydw i erioed wedi bod i ŵyl o'r blaen. Roedd yn anhygoel i mi weld sut buaswn i'n gweithio mewn digwyddiad fel hwn, sut mae sgiliau'n dod at ei gilydd ac yn cael eu trosglwyddo i wahanol leoliadau. Mae wedi rhoi cyfeiriad newydd a chyffrous i mi."


I ddarganfod sut i wneud cais i unrhyw un o gyrsiau Citrus Arts, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Beth ar beth@citrusarts.co.uk neu 07785947823.


Am ragor o wybodaeth am Citrus Arts, ewch i: https://www.citrusarts.co.uk/

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page