Tudalen - Am
- Jan 26
- 2 min read
Awdur: Am
Dyddiad cau: 12/02/26
Mae Am yn falch o lansio Tudalen, gofod digidol newydd ar ein gwefan i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru. Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Tudalen, drwy alwad agored, yn rhannu 3 darn buddugol o lên-meicro ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Rydym yn gofyn am ddarnau o lên-meicro creadigol yn ymateb i’r thema ‘Portread’, a hynny i ddathlu arddangosfa ddiweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Portread a Phŵer’ . Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno darn o waith yw 23:59 Chwefror 12fed 2026. Ceir mwy o wybodaeth yn y canllawiau isod.
Diffinnir llên-meicro fel darn o ryddiaith sydd yn stori gyflawn a adroddir gyda nifer cyfyngedig o eiriau (hyd at 500 gair).
Rydym yn gofyn am waith yn ymateb i’r thema ‘Portread’, ond nodir mai sbardun ysbrydoliaeth yw’r thema, ac nad oes anghenraid i ymateb i’r arddangosfa ‘Portread a Phŵer’ yn uniongyrchol.
Mae’n rhaid i’r darn fod yn yr iaith Gymraeg.
Dylai’r darn fod heb ei gyhoeddi unrhyw le arall o’r blaen.
Gallwch gyflwyno eich gwaith trwy yrru eich darn ar ffurf dogfen Word i am@pyst.net. Mae hefyd modd i chi yrru eich darn ar ffurf ffeil sain: cysylltwch gyda lea@pyst.net am fwy o wybodaeth am hyn.
Bydd ysgrifenwyr y 3 darn buddugol yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £100 yr un.
Bydd y darnau buddugol yn cael eu dethol yn anhysbys gan Banel Beirniadu fydd yn cynnwys Eluned Gramich a Malachy Edwards.
Byddwn yn hysbysu awduron y darnau buddugol ar Chwefror 24ain, a bydd y darnau hynny yn cael eu cyhoeddi ar Am ar Fawrth 1af.
Bydd hawlfraint y gwaith yn aros gyda’r awdur, ond bydd gofyn i’r gwaith gael ei rannu yn ecsgliwsif drwy Am am gyfnod o fis.
Am fwy o wybodaeth am Tudalen, cysylltwch â lea@pyst.net.



