top of page

Swyddog Digwyddiadau ac Aelodaeth (rhan amser)

  • cerys35
  • Jan 6
  • 3 min read

Awdur: Creu Cymru

Dyddiad cau: 2 Chwefror 2026


Gwybodaeth am y swydd :


Cyflog: £31,500 FTE y flwyddyn (pro rata £17,878) ynghyd â lwfans gweithio gartref o £40 y mis.


Oriau gwaith: 3 diwrnod yr wythnos, a allai gynnwys oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd neu waith ar benwythnosau. 17 diwrnod a Gwyliau Cyhoeddus.


Mae Creu Cymru yn chwilio am Swyddog Digwyddiadau ac Aelodaeth deinamig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm.


Mae'r swydd ran-amser hon yn ganolog i’r gwaith o ddarparu ein rhaglen ddigwyddiadau a gwasanaethau i aelodau, gan gefnogi twf ac ymgysylltiad ein rhwydwaith o sefydliadau sy'n ymwneud â’r celfyddydau perfformio ledled Cymru.


Gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr, bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith cyfathrebu a gweinyddu sy'n gysylltiedig ag aelodaeth, yn cydlynu'r dasg o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau – gan gynnwys ein Cynhadledd Flynyddol, ein rhaglen hyfforddi a chyfarfodydd rhwydwaith – ac yn cefnogi cynlluniau teithio a phrosiectau. Yr unigolyn hwn fydd y pwynt cyswllt cyntaf i lawer o'n haelodau a'n partneriaid, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o feithrin perthnasoedd a sicrhau gwasanaeth o safon uchel.


Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n cyfathrebu’n hyderus, yn drefnus iawn, yn ymwybodol o ddiwylliant, ac yn frwd dros gryfhau'r gymuned celfyddydau perfformio yng Nghymru. Mae'r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at genhadaeth Creu Cymru i gefnogi datblygiad proffesiynol, cynyddu amrywiaeth a hygyrchedd, a datblygu rhwydwaith celfyddydol bywiog a chynhwysol.


Mae angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydyn ni'n disgwyl i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n hyderus yn Gymraeg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau – gan gynnwys digwyddiadau aelodau, sgyrsiau ffôn a chreu cynnwys Cymraeg. Ar gyfer gwaith cyfathrebu ar raddfa fwy, byddwn yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu proffesiynol.


Os ydych chi'n frwd dros y rôl ond yn teimlo bod angen datblygu eich sgiliau Cymraeg, rydyn ni'n dal i'ch annog i wneud cais. Rydyn ni'n agored i gefnogi'r ymgeisydd iawn i feithrin hyder a gallu yn y maes hwn.


GAIR AM CREU CYMRU 


Mae Creu Cymru yn hybu sector celfyddydau perfformio bywiog Cymru, gan gysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau.  


Mae ein haelodaeth yn ffurfio rhwydwaith cydweithredol; a byddwn, gyda llais cryf ac unedig, yn eiriol ar ran y rhwydwaith hwnnw ac yn ei gyflwyno i gyrff llywodraethu cyhoeddus, gan ddylanwadu er mwyn cael newid cadarnhaol a sicrhau cynrychiolaeth hanfodol i’r diwydiant. 


Rydyn ni'n darparu arbenigedd, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i weithlu'r sector yng Nghymru, gan gyfleu barn y gweithlu i ddiwydiant theatr ehangach y DU, ynghyd â llywodraethau Cymru a'r DU. Mae ein haelodaeth yn dwyn ynghyd dros 60 o gwmnïau celfyddydau perfformio, theatrau ac ymarferwyr unigol sy'n cyflogi dros 1,500 o bobl, sy'n cael eu cefnogi gan 1,200 o wirfoddolwyr, ac sy'n gwasanaethu'r 1.2m o bobl sy'n mynd i’r theatr ac i weld perfformiadau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r nifer hwn yn cynnwys dros 35,000 o aelodau Hynt – cynllun mynediad sydd wedi ennill gwobrau ac yn cael ei redeg gan Creu Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd ag amhariad neu ofynion mynediad penodol.


Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar gyfer y rôl hon gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y celfyddydau, gan gynnwys menywod, pobl o'r mwyafrif byd-eang, LGBTQI+, a phobl ag anableddau.


Sut mae gwneud cais


Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi'n bodloni'r gofynion yn y disgrifiad swydd (dim mwy na 3 tudalen) at yvonne@creucymru.com erbyn Dydd Llun 2ail o Chwefror 10yb.


Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd hon, cysylltwch ag yvonne@creucymru.com


SYLWER – Er ein bod yn deall y gall deallusrwydd artiffisial helpu a chefnogi pobl yn ystod prosesau ymgeisio am swydd, rydyn ni'n dymuno clywed gennych yn eich geiriau eich hun, a byddwn yn defnyddio gwiriwr deallusrwydd artiffisial fel rhan o'r broses ymgeisio.


Lleoliad


Gweithio o bell o unrhyw le yng Nghymru, gan deithio o bryd i'w gilydd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.


Cyfweliad


Byddwch yn cael gwahoddiad i gael sgwrs anffurfiol ar-lein yn Gymraeg gyda Gweinyddwr Creu Cymru, Yvonne O'Donovan, a fydd yn gallu dweud mwy wrthych am y sefydliad a'r rôl.


Yna byddwch yn dod i gyfweliad ffurfiol wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ar 26ain Chwefror.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page