top of page

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Sector Sgrin Cymru

  • cerys35
  • Jan 12
  • 3 min read

Awdur: Media Cymru

Ceisiadau’n cau: Dydd Llun 16 Mawrth 2026


Mae Media Cymru yn cynnig cwrs 3 sesiwn, WYNEB YN WYNEB mewn BSL ac ymwybyddiaeth o fyddardod, gyda’r nod o gyflwyno sgiliau BSL hanfodol i’r cyfranogwyr, ynghyd â'r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i gyfathrebu â chastiau, criwiau a chyfranwyr byddar a/neu drwm eu clyw wrth weithio ar gynyrchiadau.


Manylion y Cwrs:


Yn ôl yr RNID, mae tua 575,500 o bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,200 yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith ddewisol.


Mae Media Cymru yn cynnig cwrs 3 sesiwn, WYNEB YN WYNEB mewn BSL ac ymwybyddiaeth byddar, gyda’r nod o gyflwyno sgiliau BSL hanfodol i bobl sy’n gweithio yn y sector sgrin, ynghyd â’r ymwybyddiaeth sydd ei hangen i gyfathrebu â chastiau, criwiau a chyfranwyr byddar a/neu drwm eu clyw wrth weithio ar gynyrchiadau.


Bydd y cyfranogwyr yn dysgu hanfodion BSL drwy adnoddau newydd sydd wedi eu datblygu mewn cydweithrediad â Deaf Friendly, ac sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer y sector sgrin.


Bydd pob un o’r tair sesiwn yn cael ei harwain gan hyfforddwyr, gyda chyfleoedd i hael hwyl wrth ymarfer. Bydd ganddynt hyfforddwr a dehonglydd yn bresennol drwy’r amser i gynnig cefnogaeth.


Bydd yr hyfforddiant hefyd yn cyfoethogi sgiliau cyfathrebu gweledol, sydd mor hanfodol yn y diwydiannau creadigol, ac yn werthfawr iawn ar leoliad, ar set ac yn y stiwdio, lle mae angen distawrwydd (oddi ar gamera).


Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Deaf Friendly a’i ariannu gan Media Cymru.


Manteision allweddol:

  • Yn cael ei gyflwyno gan weithwyr proffesiynol byddar lleol sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y cyfryngau

  • Dysgu ymdrochol drwy ymarfer ac ailadrodd

  • Yn cyd-fynd â nodau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  • Yn helpu cynyrchiadau – a phobl – i fod yn fwy hygyrch a chynhwysol.


Cymorth ar ôl y cwrs:


Mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys e-ddysgu a chymwysterau BSL ffurfiol wedi’u cynnig drwy chwaer gwmni Deaf Friendly, Premier BSL Ltd.


Credwn fod gan y sector sgrin gyfle unigryw i arwain y ffordd o ran normaleiddio byddardod, hybu buddiannau pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, a gwella hygyrchedd. Gallwn hefyd feithrin diwylliant gwaith mwy cynhwysol, gweledol ymwybodol a chroesawgar.


Mae BSL yn fwy na dim ond iaith – mae’n ymwneud â meithrin hyder ac ymgysylltiad mewn bywyd pob dydd.


Tiwtor y Cwrs:

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Sarah Lawrence, gweithiwr proffesiynol yn y maes byddar-dod sy’n uchel iawn ei pharch yng Nghymru, ac yn meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad. Mae’n arbenigo mewn hyfforddiant BSL ac Ymwybyddiaeth Byddar. Mae gan Sarah brofiad helaeth mewn teledu a ffilm, ac mae wedi gweithio ar sioeau fel Dr Who, Casualty, Dope Girls a Falling. Mae profiad unigryw Sarah yn y maes teledu fel cyfieithydd a dehonglydd BSL yn golygu y gellir ymddiried yn llwyr yn y cymorth hyfforddi a gynigir gan Deaf Friendly.


Pwy all wneud cais?

Mae’r cwrs hwn yn agored i Gymry, a phobl yng Nghymru, sy’n gweithio’n broffesiynol – neu’n chwilio am waith – yn y sector sgrin (Ffilm, Teledu, Gemau, Animeiddio, Effeithiau Gweledol, Ôl-gynhyrchu a Masnachol).


Mae’r cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i unrhyw un sy’n colli clyw ei hun, neu sy’n gweithio gyda – neu wedi ymrwymo i weithio gyda – chydweithwyr, criwiau, castiau a/neu gyfranwyr byddar neu drwm eu clyw.


Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am BSL.


Pryd a ble?

Gofynnwn i chi sicrhau y gallwch ymrwymo i’r dyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb canlynol i gyd, mewn lleoliad canolog yng Nghaerdydd:


Dydd Sadwrn 18 Ebrill, 1000-1300

Dydd Sadwrn 25 Ebrill, 1000-1800

Dydd Sadwrn 2 Mai, 1000-1800


Darperir lleoedd am ddim ond mae eu cynnal yn costio, felly gofynnwn i chi wneud cais ddim ond os gallwch ymrwymo i fynychu pob sesiwn.


Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 Dydd Llun 16 Mawrth 2026


Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2026


Mynediad a Hygyrchedd:

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud cwblhau’r cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth sgrifennu neu ddarllen) neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, naratif sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith amgen) anfonwch e-bost i media.cymru@southwales.ac.uk


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: media.cymru@southwales.ac.uk




Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page