top of page

Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!

  • 5 days ago
  • 1 min read

Awdur: Niwrowahaniaeth Cymru


Mae’n bleser gennym rannu bod bellach modd cofrestru ar gyfer digwyddiadau ar-lein RHAD AC AM DDIM Niwrogynhwsiant – Mae O Bwys! a gynhelir yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth.


Bydd y digwyddiadau ar-lein hyn yn ystyried pam a sut i ddatblygu Cymru fwy niwrogynhwysol. Bydd pob sesiwn yn cynnwys prif siaradwr ynghyd ? chyfres o leisiau niwrowahanol ar draws ein cymunedau i gynnig eu harbenigedd, awgrymiadau a’u mewnbwn gwerthfawr.


🌟Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys! - Sesiwn 1


📅Dydd Llun, 16 Mawrth 2026

🕙 10:00am – 12:00pm

💬 Thema: Pam Mae Angen Cymdeithas Niwrogynhwysol


🎤 Yn cynnwys: yr eiriolwr niwrogadarnhaol arweiniol a’r siaradwr proffesiynol Tigger Pritchard, a fydd yn rhannu ei fewnbwn am iaith niwrogynhwysol a pham bod newid ein ffordd o feddwl yn hollbwysig.


🌟Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys! - Sesiwn 2


📅Dydd Gwener, 20 Mawrth 2026

🕙 10:00am – 12:00pm

💬 Thema: Sut Ydym Yn Creu Cymdeithas Niwrogynhwysol


🎤Yn cynnwys: Rosie Higgins o Unquiet Media, a fydd yn ein harwain drwy ffyrdd ymarferol o feithrin gweithleoedd a chymunedau niwrogynhwysol.


Mae Niwrogynhwysiant yn fater i bawb. P’un a ydych chi’n ymuno o brofiad go iawn, chwilfrydedd proffesiynol, cynghreiriaeth, neu frwdfrydedd am newid cadarnhaol, dyma’r cyfle i chi! Ymunwch ? ni i’n helpu i greu Cymru fwy niwrogynhwysol. Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!


Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gofrestru:

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page