top of page

Digwyddiad rhwydweithio aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) gyda Chaerdydd Creadigol

  • cerys35
  • 4 days ago
  • 1 min read

Rydym wrth ein bodd i gydweithio gyda Chaerdydd Creadigol i greu digwyddiad rhwydweithio misol ar gyfer aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru.


Nod Caerdydd Creadigol yw gwneud Caerdydd a’r rhanbarth yn brifddinas gysylltiedig, gydweithredol, cynhwysol a chreadigol. Bydd y digwyddiadau yma yn gyfle i gwrdd ag artistiaid eraill, rhannu eich gwaith, trafod syniadau, a ffeindio cymorth o fewn cymuned DAC a chymuned greadigol Caerdydd.


Bydd y digwyddiadau yn dechrau ar ddydd Mercher 11 Chwefror o 14:00 – 16:00 yn Tramshed Tech, Caerdydd, ac wedyn yn parhau yn fisol gan gymryd lle pob ail dydd Mercher y mis.

Cyfeiriad:

The Station Room - Tramshed Tech, Unit D, Pendyris St, Caerdydd CF11 6BH


I ofyn cwestiynau am fynediad, cysylltwch â accessibility.tramshed@propagandavenues.com


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â post@disabilityarts.cymru

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page