Llantarnam Grange: Arddangosfa Agored
- Mar 2
- 1 min read
Awdur: Llantarnam Grange
I ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân, rydym yn gwahodd artistiaid a gwneuthurwyr o bob rhan o'r DU i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa agored yn Oriel 1.
Bydd hon yn arddangosfa yn null salon, gyda chelfwaith yn cael ei ddangos o'r llawr i'r nenfwd!
Nid oes ffi mynediad neu thema, a byddem yn croesawu’r rhai hynny sydd wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol yn arbennig. P'un a ydych wedi cael arddangosfa neu stiwdio, wedi gweithio yn ein horiel neu gaffi, neu wedi cyflwyno/mynychu gweithdai.
Bydd yr arddangosfa'n rhedeg o 14 Mawrth – 30 Mai, gyda digwyddiad agor ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth, 12-2pm.
Un celfwaith gan bob artist. Rhaid iddo fod yn 2D, heb fod yn fwy nag A2, ac y gellir ei hongian ar wal.
Cymhwysedd
Rhaid bod yr artistiaid yn byw yn DU
Rhaid bod y gwaith mewn 2D, a heb fod yn fwy nag A2 ar y mwyaf (42cm x 59.4cm) a heb fod yn ddyfnach na 15cm
Rhai bod modd hongian y gwaith ar wal
Mwy a sut i ymgeisio: https://llantarnamgrange.com/open-exhibition-60-years



