Digwyddiad rhwydweithio aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) gyda Chaerdydd Creadigol
- 7 days ago
- 1 min read
Updated: 5 days ago
Digwyddiad nesaf: 11/03/26, 14:00 - 16:00
Bydd y digwyddiadau yn parhau yn fisol gan gymryd lle pob ail ddydd Mercher y mis.
Rydym wrth ein bodd i gydweithio gyda Chaerdydd Creadigol i greu digwyddiad rhwydweithio misol ar gyfer aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru.
Nod Caerdydd Creadigol yw gwneud Caerdydd a’r rhanbarth yn brifddinas gysylltiedig, gydweithredol, cynhwysol a chreadigol. Bydd y digwyddiadau yma yn gyfle i gwrdd ag artistiaid eraill, rhannu eich gwaith, trafod syniadau, a ffeindio cymorth o fewn cymuned DAC a chymuned greadigol Caerdydd.
Cyfeiriad:
The Station Room - Tramshed Tech, Unit D, Pendyris St, Caerdydd CF11 6BH
I ofyn cwestiynau am fynediad, cysylltwch â accessibility.tramshed@propagandavenues.com
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â post@disabilityarts.cymru



