top of page

Swydd Wag Theatr y Sherman: Goruchwylwr Bar a Chegin

  • cerys35
  • Dec 9, 2025
  • 2 min read

Awdur: Theatr y Sherman


Theatr y Sherman wishes to appoint a Bar and Kitchen Supervisor.


Mae hon yn rôl gyffrous a heriol o fewn y sefydliad ac yn ganolog i'n helpu i gyflawni ein huchelgais i greu theatr wych a darparu profiad gwych i ymwelwyr fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt.


Bydd disgwyl i chi sicrhau bod gwasanaethau’r bar a’r gegin yn gweithredu’n effeithiol a phroffidiol ac yn cefnogi ac yn arddel amcanion Theatr y Sherman yn ystod perfformiadau a’r tu allan i’r amseroedd hynny. Bydd disgwyl i chi hefyd gynorthwyo Rheolwr y Bar a’r Gegin i ddarparu gwasanaethau bar a chegin o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithgareddau a digwyddiadau.


Cynigir y swydd hon fel llawn amser, cyfnod parhaol. Byddwn yn ystyried contractau rhan-amser ar gyfer yr ymgeisydd cywir. Dyddiad cau: dydd Llun 29 Medi 2025 am hanner dydd. Cynhelir y cyfweliadau ddydd Gwener 10 Hydref 2025 Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.  


Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.


Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/about-us/jobs/


Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page