Rydym yn cyflogi! Swyddog Datblygu Cerddoriaeth
- cerys35
- 2 days ago
- 3 min read
Dyddiad cau: Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025
Swydd: Swyddog Datblygu Cerddoriaeth
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Gweithredol / Uwch Arweinydd
Cyflog: £17,042.40 (pro rata o £28,404)
Oriau: 21 awr yr wythnos
Contract: Cyfnod penodol – tair blynedd o’r dyddiad cychwyn
Lleoliad: Gweithio gartref, gyda'r opsiwn i weithio o swyddfa yng Nghaerdydd neu yng Nghaerfyrddin.
Os ydych chi angen cael yr wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â post@disabilityarts.cymru
Crynodeb:
Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Datblygu Cerddoriaeth i ymuno â'n tîm gwych yn Celfyddydau Anabledd Cymru! Ydych chi'n frwd dros Gerddoriaeth ac wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau pobl anabl? Gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi. Os ydych chi'n cael eich cyffroi gan bŵer celf i archwilio materion cymdeithasol ac ysbrydoli gwir newid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Sut beth yw gweithio gyda ni:
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn Sefydliad Corfforedig Elusennol sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn sefydliad aelodaeth sy'n cynhyrchu ac yn hyrwyddo celf sy'n adlewyrchu profiad bywyd pobl anabl yng Nghymru ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y celfyddydau. Mae'r model cymdeithasol o anabledd wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn gweithio i herio rhwystrau ac agweddau negyddol, gan helpu unigolion a sefydliadau i ddeall mai cymdeithas ac agweddau negyddol, nid namau, sy'n gwneud pobl yn anabl.
Mae gweithio i Celfyddydau Anabledd Cymru yn golygu ymuno â thîm bach, hynod brofiadol a brwdfrydig wedi’u lleoli ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith yn golygu gweithio gartref, er y bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiadau ledled y wlad ac ymweld â'n pencadlys yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd o bryd i'w gilydd. Mae ein staff yn elwa o lwfans gwyliau blynyddol hael, gan gynnwys cau’r swyddfa dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, diwrnodau ychwanegol drwy ddisgresiwn, dau ddiwrnod cymdeithasol i’r tîm bob blwyddyn, a sgwrs goffi gyfeillgar o bell dros Zoom yn wythnosol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Byddwch yn rheoli ac yn cefnogi grŵp o gerddorion sy’n aelodau o Celfyddydau Anabledd Cymru, gan eu helpu i greu gwaith newydd, cael gafael ar gyfleoedd, a thyfu'n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau, datblygu ac arwain prosiectau, meithrin a chynnal cysylltiadau â sefydliadau partner yng Nghymru a thu hwnt, gweinyddu a chefnogi comisiynau celfyddydol, a darparu hyfforddiant pan fo angen.
Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano:
Profiad ymarferol yn y celfyddydau, yn benodol yng nghyd-destun cerddoriaeth.
Profiad amlwg o gynllunio a chyflawni prosiectau i safon uchel.
Cyfathrebwr effeithiol sy'n gallu ymgysylltu â phobl ar bob lefel.
Aelod cadarnhaol o dîm, sy'n cydweithio'n dda ac yn meithrin perthnasoedd cryf yn fewnol ac yn allanol.
Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli prosiectau niferus, cadw at derfynau amser, a gweithio'n effeithiol o bell.
Dealltwriaeth fyw o brofiadau pobl anabl a/neu fyddar yng Nghymru, ochr yn ochr ag angerdd dros ddefnyddio celf i sbarduno newid cymdeithasol.
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad:
Hanfodol:
Profiad perthnasol, neu wybodaeth amlwg, o gyflawni prosiectau celfyddydol sy'n cael effaith gymdeithasol yng Nghymru.
Ymwybyddiaeth gref o'r diwydiant cerdd yng Nghymru a chysylltiadau â phobl allweddol yn y sector.
Addysg hyd at lefel gradd, neu brofiad sylweddol cyfatebol yn y diwydiant.
Gallu cynllunio, darparu a chefnogi prosiectau a digwyddiadau celfyddydol.
Dealltwriaeth gadarn o brofiad bywyd o anabledd a gwybodaeth ymarferol am y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Sgiliau rhyngbersonol effeithiol gyda'r gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd, a chyfathrebu'n effeithiol â phobl ar bob lefel.
Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli amser, blaenoriaethu llwyth gwaith, a chyflawni o fewn terfynau amser mewn amgylchedd gweithio gartref/hybrid.
Gallu gweithio'n gadarnhaol ac ar y cyd o fewn tîm bach o staff, gan gynnwys cydweithio ar draws ffurfiau celfyddydol.
Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys MS Office a llwyfannau cyfathrebu digidol (e.e. Zoom, Teams).
Profiad o gasglu a gwerthuso adborth i adrodd ar effaith prosiect ac anghenion aelodau.
Dymunol:
Siarad Cymraeg yn rhugl
Profiad o roi hyfforddiant
Sut mae gwneud cais:
I wneud cais, llenwch ffurflen gais a ffurflen gydraddoldeb a’u dychwelyd drwy e-bost at nia@disabilityarts.cymru gyda’r llinell pwnc: “Swyddog Datblygu Cerddoriaeth”.
Wrth lenwi eich cais, rhowch enghreifftiau sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf gwybodaeth, sgiliau a phrofiad a amlinellir uchod.
Sylwer: Oherwydd natur y rôl hon, dim ond ffurflenni cais ysgrifenedig fydd yn cael eu hystyried. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl anabl a byddar a phobl o gymunedau sy'n cael eu tangynrychioli.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025



