top of page

Goruchwylwyr + 2026

  • cerys35
  • Nov 11
  • 1 min read

Awdur: Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Canol dydd 10 Rhagfyr 2025


Cyfle datblygu rhyngwladol i ymarferwyr yn gynnar yn eu gyrfa ym maes y celfyddydau gweledol.


Mae’n gyfle datblygu proffesiynol gwych gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n rhan allweddol o bresenoldeb Cymru yn yr Arddangosfa Gelf Ryngwladol rhif 61 – La Biennale di Venezia - sy’n digwydd 9 Mai-22 Tachwedd 2026.



Mae'n gyfle â grant teithio i ymarferwyr yn gynnar yn eu gyrfa i:


- cael profiad rhyngwladol

- magu rhwydweithiau proffesiynol

- datblygu eu hymarfer creadigol mewn cyd-destun byd-enwog


Mae'n cyfle i:

  • artistiaid

  • curaduron

  • ysgrifenwyr

  • cynhyrchwyr creadigol ym maes y celfyddydau gweledol


Byddwch yn treulio mis o leiaf yn Fenis yn llysgennad i arddangosfa Cymru yn Fenis. Byddwch yn siarad ag ymwelwyr, cefnogi effaith yr arddangosfa a phrofi awyrgylch y Biennale.


Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag ymrwymiad cryf i’n celfyddydau gweledol ac sy’n gallu siarad yn hyderus â chynulleidfa amrywiol a chynrychioli'r arddangosfa’n broffesiynol.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page