Ymunwch â Phrosiect 'Ripples'
- cerys35
- 3 days ago
- 1 min read
Awdur: write4word
Yn dilyn ein digwyddiad Cwrdd diwethaf, lle clywsom gan Dominic Williams (write4word) am brosiect ripples, mae Dominic wedi anfon gwybodaeth atom ynglŷn â sut y gall aelodau gymryd rhan.
Dyma ddolen i ffolder dropbox sy'n cynnwys cyfieithiadau Saesneg o gerddi gwreiddiol o Sweden sydd heb gael eu 'rippled' eto:
IGallwch chi ddewis cerdd o'r ffolder hon i greu 'ripple' ohoni - rhowch wybod i Dominic pa gerdd rydych chi'n gweithio arni. Gallwch gysylltu â Dominic yma: dominic@write4word.org
Pan fyddwch chi wedi gorffen y 'ripple', anfonwch yr MP4 at Dominic trwy wetransfer.com
Os hoffech gael rhagor o fanylion neu gymorth gyda'ch proses, cysylltwch â Dominic.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyllid i gefnogi'r prosiect hwn ond os hoffech gysylltu â chymuned ryngwladol o feirdd, awduron, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr ac eisiau cyfle i chwarae gyda'ch ymarfer creadigol croeso i chi ymuno â ni.
Dolennau arall:
Cyflwyniad i'r prosiect ar wefan Litteraturcentrum Kvu:
Playlist ar sianel YouTube Litteraturcentrum Kvu o 14 cerddi ‘rippled’ i’r Sbaeneg:
Playlist ar sianel YouTube write4word o 17 cerddi ‘rippled' i Saesneg a Chymraeg: