Cwrdd: Gig Buddies vs Trafnidiaeth
- cerys35
- Oct 9
- 1 min read
Dydd Mawrth 4 Tachwedd, 12 canol dydd - 1yp
Ar-lein ar Zoom
IAP: Cathryn McShane
Capsiynau: Laura Harrison
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Cwrdd nesaf i glywed o Mark Jones.
Mae Mark Jones yn wirfoddolwr ac yn Llysgennad Trafnidiaeth gyda Gig Buddies Cymru, prosiect a reolir gan Anabledd Dysgu Cymru sy'n cysylltu pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth â gwirfoddolwyr sy'n rhannu eu diddordebau. Yn y sgwrs hon, mae Mark yn rhannu ei brofiad bywyd a'r gwahaniaeth y mae Gig Buddies wedi'i wneud i'w fywyd ef - a bywyd ei wraig. Gan agor gyda'i gerdd Life Sentence, mae'n myfyrio ar gynhwysiant, hygyrchedd, a phwysigrwydd trafnidiaeth wrth helpu pobl i gymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol, meithrin cyfeillgarwch, a theimlo'n rhan o'u cymuned.



