Comisiwn Artistiaid ar gyfer EDICA
- cerys35
- 1 day ago
- 1 min read
Mae hwn yn gomisiwn o £1,200 i arlunydd greu cynnyrch arddull Llyfr Comig/Nofel Graffeg sy'n crynhoi ymchwil ansoddol bwysig i brofiadau (heriau a wynebir/rhwystrau a brofir gan) menywod academaidd â chyflyrau iechyd meddwl yn y sector addysg uwch.
Bydd angen i chi gael rhywfaint o brofiad o ymchwil academaidd a dealltwriaeth dda o rwystrau mynediad i bobl anabl. Mae yna lawer iawn o ddata ansoddol y bydd yn rhaid ei ddarllen - mewn partneriaeth â'r ymchwilydd academaidd.
Dyddiadau Pwysig:
Dyddiad cau am geisiadau: 03/11/25
Dechrau ar y gwaith: 10/11/25
Gorffen y gwaith: 17/12/25
Sut i ymgeisio:
Llenwch y ffurflen cais yma a rho wybod am eich:
Profiad Ymchwil
Profiad anabl/hygyrch
Profiad o symleiddio ymchwil
Profiad gyda llyfrau coming neu nofelau graffeg
Enghreifftiau o prosiectau perthnasol / URL / Atodiad