top of page

Swydd Wag RWCMD: Swyddog Gweithredol Cerdd

  • Mar 3
  • 2 min read

Awdur: RWCMD

Dyddiad cau: 19/03/26


Mae’r Coleg yn awyddus i benodi Swyddog Gweithredol profiadol ac amryddawn i ddarparu cymorth gweinyddol proffesiynol a lefel uchel i Gyfarwyddwr Cerdd y Coleg drwy’r cyfnod hollbwysig hwn o ddatblygu strategol. Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth ragorol am gerddoriaeth, tystiolaeth o feddwl dadansoddol a beirniadol ardderchog a sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol cryf gyda phrofiad amlwg o becynnau meddalwedd Office (Outlook, Word, Excel a PowerPoint).


Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i dargedu cynnwys ar gyfer y gynulleidfa drwy roi sylw rhagorol i fanylion a chywirdeb. Bydd yn aml yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Cyfarwyddwr Cerdd, felly bydd gofyn iddo/iddi ddelio â sefyllfaoedd a cheisiadau cymhleth a chyfrinachol. Bydd ganddo/ganddi brofiad amlwg o gynnal perthnasoedd adeiladol gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, a bydd yn dangos dull o ddatrys problemau sy’n seiliedig ar ganfod atebion. Bydd yn ddibynadwy, yn frwdfrydig, gyda gallu amlwg i weithio mewn amgylchedd tîm.


Swydd lawn-amser am gyfnod penodol yw hon. Rydym yn cynnig llawer o fuddion i’n cyflogeion, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.


Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gyntaf ym maes gwasanaethau proffesiynol yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd mewnol ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Byddwch chi’n parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.


I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Aimee.badger@rwcmd.ac.uk


Dyddiad cau: 19/03/26

Cyfweliadau: prynhawn y 26ain o Fawrth 2026

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page