top of page

Stepping In: Galw am Fentoreion

  • Mar 2
  • 2 min read

Awdur: WAHWN

Dyddiad cau: canol dydd, dydd Mercher 18fed o Fawrth

Lleoliad: Gogledd Cymru


Rhaglen hyfforddi a mentora yw Camu i Mewn i alluogi ymarfewyr o gymunedau Cymraeg eu hiaith a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngogledd Cymru i gamu i fyd y celfyddydau ac iechyd.


Camu i Mewn : Amrywio Gweithlu’r Celfyddydau Creadigol ac Iechyd


Rhaglen hyfforddi a mentora yw Camu i Mewn i alluogi ymarfewyr o gymunedau Cymraeg eu hiaith a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngogledd Cymru i gamu i fyd y celfyddydau ac iechyd. Gan adeiladu ar lwyddiant ein cynllun peilot gyda phedwar ymarferydd, mae’r fenter yn mynd i’r afael â’r angen dybryd i amrywio ac ehangu’r garfan o ymarferwyr sy’n gweithio yn y celfyddydau ac iechyd. Mae galw am ymyriadau yn y celfyddydau ac iechyd yn debygol o godi, ond mae’r sector yn dibynnu ar gronfa fach o hwyluswyr sy’n cael eu gorymestyn. Mae’r gronfa o siaradwyr Cymraeg yn fach. Mae’r rhaglen hon yn ymateb i’r her honno drwy fuddsoddi mewn talentau newydd a chwalu rhwystrau mynediad. Bydd Camu i Mewn 2026 yn cefnogi carfan newydd o hyd at 12 o ymarferwyr yng ngogledd Cymru.


Galw am Fentoreion


Ydych chi’n ymarferydd creadigol yng ngogledd Cymru (unrhyw ffurf gelfyddydol) a/neu yn ymarferydd yn gweithio mewn lleoliad iechyd?


Ydych chi’n angerddol ynghylch defnyddio eich sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy ymgysylltu creadigol?


Ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl?


Oes gennych chi brofiad byw o un neu fwy o’r canlynol: hunaniaeth mwyafrif byd-eang, iechyd meddwl gwael, anabledd, b/Byddar a niwroamrywiol, LHDTCA+


Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen gyda chefnogaeth sydd wedi’i hanelu at amrywio’r gweithlu celfyddydau ac iechyd?


Hoffech chi weithio a chael profiad gyda chorff celfyddydau ac iechyd yng ngogledd Cymru?


Os yw o leiaf 5 o’r rhain yn berthnasol i chi, gallai Camu i Mewn fod yn iawn i chi!


Mwy a sut i ymgeisio:

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page