Ablaeth Rhemp y Crachach gan Troi Cerrig
- cerys35
- 7 days ago
- 1 min read
Sengl cyntaf gan prosiect creadigol newydd Sara Erddig a Stuart Estell.
Dyma ryddhad cyntaf Troi Cerrig, prosiect cydweithredol newydd sy'n croesi ffiniau ieithyddol, gwladol, a synhwyraidd. Un o Wrecsam yw Sara, sy’n golofnydd i gylchgrawn Barddas a phlatfform Golwg360; un o Swydd Gaerwrangon sy'n siarad Cymraeg y De-Orllewin, ac sydd wedi rhyddau sawl albwm a senglau niferus fel Ffos Goch yw Stuart.
Cwrddodd y ddau aelod am y tro cyntaf erioed ym mis Medi 2025 yn Stiwdio Olivet yn Rhosrobin, Wrecsam; erbyn diwedd y penwythnos, roedd albwm gyfan gyda nhw. Cyfansoddwyd y mwyafrif o'r gyfeiliannau ar y pryd, yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau acwstig ac electronig.
Y gerdd gyntaf iddyn nhw ei recordio oedd Ablaeth Rhemp y Crachach, gwaith Sara sydd wedi cael ei dewis gan academyddion ym mhrifysgol Caerdydd i’w gynnwys mewn adnodd am cydraddoldeb ac amrywiaeth i ysgolion. Dros gyfeiliant o iwcaleli bariton, mae Sara'n perfformio'r gerdd fel darn gair llafar, ac mae'r effaith yn hynod o bwerus wrth iddi ddisgrifio'r ablaeth mae hi wedi ei phrofi dan ddwylo'r system. Ennillodd y gerdd wobr ‘Geiriau Creadigol’ Disability Arts Cymru 2022 (cyfrwng Cymraeg).
credits
released December 5, 2025
Llais, geiriau: Sara Erddig
Iwcaleli baritôn: Stuart Estell



