top of page

Megan Angharad Hunter
Swyddog Llenyddiaeth
Mae Megan yn awdur a sgriptiwr o Benygroes, Dyffryn Nantlle yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ei phrif angerdd ydi sgwennu straeon ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n pwysleisio'r hapusrwydd a'r balchder o fod yn rhan o'r gymuned f/Fyddar ac a/Anabl. Felly, wrth ymgymryd â'r rôl hon, mae hi'n edrych 'mlaen yn arw at gefnogi awduron a/Anabl eraill i wneud yr un peth, a defnyddio'i phrofiadau i rymuso lleisiau b/Byddar ac a/Anabl yn y byd cyhoeddi Cymraeg a thu hwnt.
bottom of page
