Llongyfarchiadau i aelod DAC Sarah Lianne Lewis sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr fawreddog yr Eisteddfod, Medal y Cyfansoddwr!
"Yn dilyn galwad agored poblogaidd a chystadleuol iawn, cafodd Jon Guy, Sarah Lianne Lewis ac Owain Gruffudd Roberts eu dethol i weithio gyda Simmy Singh (ffidil), David Shaw (ffidil/fiola), Garwyn Linnell (soddgrwth) a mentor-cyfansoddwr, Pwyll ap Siôn mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at berfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd un o'r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.
Medal y Cyfansoddwr yw prif wobr cyfansoddi cerddoriaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac fe'i chynhelir yn flynyddol. Yn dilyn llwyddiant y bartneriaeth gyda Tŷ Cerdd a Sinfonia Cymru y llynedd, bydd gwaith tri chyfansoddwr yn cael ei berfformio yn Seremoni Medal y Cyfansoddwr ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Wrecsam yr haf hwn. Fel un o brif ddigwyddiadau’r Eisteddfod, cynhelir y seremoni hon ar ddydd Sadwrn, 9 Awst, lle bydd y cyfansoddwr buddugol yn cael eu cyhoeddi a’u dathlu.
Mae’r llwybr yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru, a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru."