top of page

AmCam x DMC 2027: Galwad agored am ffilmiau byrion cymunedol yn dogfennu cerddoriaeth iaith Gymraeg

2 days ago
1 min read

Updated: 15 hours ago



Mae’r ŵyl ffilmiau ddigidol AmCam yn dychwelyd gyda rhifyn gerddorol arbennig i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar Chwefror 5ed, 2027!


Mae Am, PYST ac Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn partneru i gynnig £500 yr un tuag at 4 ffilm ddogfen fer am gerddoriaeth iaith Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae hyn yn dilyn 4 rownd flaenorol o’r ŵyl ffilmiau ddigidol, sydd wedi comsiynu 16 ffilm gymunedol hyd yn hyn. Gallwch wylio’r holl ffilmiau ar Am nawr, gan gynnwys y ffilmiau o rifyn Ddydd Miwsig Cymru llynedd; ‘Swn Mach’ gan Lowri Page, ‘AD-DREFNU’ gan Lleucu Elisa Jenkins, ‘Croeso Y Diwylliant Vol.1’ a ‘Garlleg’ gan Kieron Shand.


Meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf :


“Mae Am yn falch iawn o gael partneru unwaith eto gyda Dydd Miwsig Cymru ar rifyn arbennig o AmCam. Mae gweithgaredd llawr gwlad yn gwbl hanfodol i’r diwydiant gerddorol ehangach, a rydym yn gobeithio bydd hwn yn gyfle gwych i ddogfennu a dathlu’r holl gerddoriaeth iaith Gymraeg arbennig sydd yn cael ei ryddhau o ganlyniad i’r holl weithgaredd hwnnw”.


Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw Hydref 28. Mae’r canllawiau ar gael yma a mae’r ffurflen gais ar gael yma. Bydd y ffilmiau yn cael eu darlledu ar Am ar Ddydd Miwsig Cymru; Chwefror 5ed, 2027.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page