Arddangosfa Agored Pam
- cerys35
- Jun 17
- 1 min read
Awdur: Pam
Rydym wrth ein bodd i wahodd artistiaid i gyflwyno eu gwaith celf ar gyfer Arddangosfa Agored Pam eleni, a gynhelir gan ein ffrindiau yn g39.
Fel bob tro, nid oes ffi cyflwyno ac nid oes cyfyngiadau ar oedran, gallu na phrofiad. Bydd pob un gwaith sy'n cyd-fynd â'r canllawiau yn cael ei arddangos.
Mae hon yn alwad agored go iawn, un rydym wedi bod yn falch o’i harloesi ers 2009 ac sydd bob amser yn arwain at arddangosfa fendigedig, gynhwysol ac eclectig, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn sy'n cael ei chyflwyno yn 2025!
Ffurflen gyflwyno a chanllawiau:
Unrhyw broblemau cysylltwch â ni yn ar yr ebost: info@pamcommonartcollective.org
Mae'r arddangosfa yn rhedeg o 10 Gorffennaf - 9 Awst, gyda'r dyddiadau canlynol i ddosbarthu'r gwaith: 27 & 28 Mehefin 2-6yp.