top of page

Artist Y Mis: Gareth Churchill

Headshot of a man with short dark hair and blue eyes wearing a grey t-shirt and silver chain around his neck. He is looking at the camera with the right side of his face obscured by the black background.
Credyd delwedd: Matthew Thistlewood

Artist y Mis ar gyfer mis Awst yw Gareth Churchill!


Mae Gareth Churchill yn gyfansoddwr, artist cydweithredol, athro cerdd, a bellach yn chwaraewr clarion. Mae’n athro cerdd i Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn aelod o Baraorchestra ers 2018.


Hyfforddodd yn wreiddiol fel oböydd, a bu’n ffodus i chwarae ar lefel broffesiynol, cyn i strôc ei adael â namau gwybyddol, synhwyraidd a chorfforol yn 20 oed. Ailgyfeiriodd hyn ei lwybr tuag at gyfansoddi.


Fel cyfansoddwr, mae sain ei gerddoriaeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei brofiad byw personol, o’r rhyngweithio rhwng y mecanyddol â’r organig, ac, yn aml gydag agwedd hunangofiannol, mae ei waith yn ceisio rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau byw eraill.


Grinding (2020) ar gyfer lleisiau gwrywaidd a phiano, cafodd ei greu yn ystod y cyfyngiadau symud mewn cydweithrediad â Chorws Dynion Hoyw De Cymru. Mae’n cymryd fel man cychwyn profiadau dynion hoyw yn ne Cymru ar raglenni dating, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysbrydoliaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.


Trepanator (2023) i’r soprano a’r obo a gafodd ei hysbrydoli gan Bore Hole, cofiant hunan-trepanation arloesol Joe Mellen. Wedi’i greu mewn cydweithrediad â Wellcome Collection, mae’r gwaith yn archwilio hanes a diwylliant drilio twll ym mhen person byw.


Mae The 9 Fridas yn brosiect parhaus sy’n addasu testun perfformiad Kaite O’Reilly i theatr gerddorol ddramatig, gyda’r bwriad o adennill a dathlu Frida Kahlo fel eicon anabledd. Dechreuodd y prosiect fel comisiwn ymchwil a datblygu Unlimited yn 2021, a hwylusodd grant creu CCC ail gam datblygu yn 2023. Yr un flwyddyn, cyflwynodd cynllun datblygu artistiaid mewnol ym Mharaorchestra Gareth i’r clarion, sef offeryn cerdd ddigidol hygyrch.


Clarion Call: ar ôl gweld potensial y clarion ar unwaith, archwiliodd Gareth a derbyniodd gyllid camau creadigol gan CCC i gychwyn ar daith yn ôl i berfformio cerddorol a thros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn archwilio creu gwaith gyda’r clarion ac ar ei gyfer. Arweiniodd hyn at rannu cyflwyniad a pherfformiad unigol byw cyntaf Gareth yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd ar 24/07/24.


Wrth gychwyn ar fy nhaith gyda’r clarion, roeddwn yn ymgeisio adennill rhywfaint o’r hyn a gollais fel oböydd, pan gefais fy strôc. Ni all geiriau ddisgrifio'r llawenydd o berfformio o flaen cynulleidfa eto ar ôl cymaint o flynyddoedd, a theimlaf yn benderfynol o geisio sefydlu fy hun fel cyfansoddwr/perfformiwr, gan wreiddio’r clarion yn fy ngwaith dyfodol a, dwi'n gobeithio, fy ngwneud i'n hesbonydd blaenllaw o’r offeryn.




Darnau perfformiad byw:

(Something) Old, New, Borrowed, Blue https://youtu.be/T2pUOT_3WPs


Dysgwch fwy am waith Gareth ar gyfryngau cymdeithasol:

Instagram: @g4rethchurchill


Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page