Ymunwch â'r tîm Celfyddydau Ymdrychol yng Nghaerdydd am ‘Diwrnod Ysbrydoliaeth’ fel rhan o'r rhaglen newydd Celfyddydau Ymdrychol.
Ydych chi'n artist sy'n ymddiddori yn y potensial o ddefnyddio technoleg i drochi cynulleidfaoedd yn eich gwaith? Ymunwch â gweithdy undydd a fydd yn ddadansoddi celfyddydau ymdrychol, yn egluro sut y gallwch chi ddefnyddio technoleg ar gyfer eich ymarfer creadigol ac yn rhoi cyfle i chi brofi amrywiaeth o brofiadau ymdrychol.
Beth yw Celfyddydau Ymdrychol?
Mae Celfyddydau Ymdrychol yn brosiect newydd 3 blynedd ar draws y DU sydd â'r nod o dorri'r rhwystrau i artistiaid o bob cefndir i greu a chysylltu â thechnolegau ymdrychol, drwy raglen gynhwysol a hygyrch o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau. O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd Celfyddydau Ymdrychol yn cynnig cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael mynediad i gymuned o gydweithwyr, hyfforddiant, mentora a chyllid hanfodol.
I bwy mae'r Diwrnod Ysbrydoliaeth hwn?
Rydym yn gwahodd artistiaid o bob cefndir, ffurfiau celf, ac ar bob cam o'u gyrfa gelfyddydol i fynychu. Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio fel pwynt cychwyn i artistiaid i ddarganfod sut y gall ymdrin â thechnolegau ymdrychol ddylanwadu ar eu hymarfer creadigol, yn ogystal â sut i wneud cais am gyllid gan y rhaglen Celfyddydau Ymdrychol i ymchwilio ymhellach. Os nad ydych eisoes yn gweithio gyda thechnolegau ymdrychol, yna mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!
Amserlen y Diwrnod:
Bore:
Sesiwn ysbrydoliaeth yn cynnwys enghreifftiau o waith ymdrychol
Sesiwn cynhyrchu syniadau
Sesiwn gwybodaeth am Grant Archwilio Celfyddydau Ymdrychol
Prynhawn:
Sesiwn Arddangos Celf Ymdrychol
Bydd cinio ar gael
Dyddiad cau: 02/10/2024
Comments