top of page

Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru 2024

Fideo IAP:


Taflen sain:

Ydych chi'n artist sy'n hunan-anabod yn anabl neu fyddar yng Nghymru? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn comisiynu wyth artist i greu gwaith, mewn unrhyw ffurf celf, sy'n rhannu eu profiad byw trwy greadigrwydd.

 

Sut brofiad yw bod chi’ch hun? Beth yw eich profiad byw? Pa safbwyntiau unigryw sydd gennych chi fel person anabl? Rydym am i chi ddangos i ni trwy gynhyrchu celf ragorol, mewn unrhyw ffurf celf.

 

Byddwn ni'n dewis wyth artist i dderbyn £1250 yr un i helpu i ddod â'r syniadau hyn yn fyw.


I ymgeisio:

Rhaid i chi fod yn aelod DAC. Ymunwch yma: https://dacymru.fillout.com/membership

Mae aelodaeth am ddim i bawb sy'n hunan-adnabod yn anabl neu'n fyddar yn ôl y model cymdeithasol o anabledd.


Cyflwyno cais erbyn dydd Mawrth 19 Tachwedd:

Cyflwynwch hyd at 500 o eiriau neu hyd at 5 munud o recordiad fideo neu sain, gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi'ch hun, eich ymarfer celfyddydol, pa waith rydych chi'n bwriadu ei gynhyrchu a sut bydd y gwaith yn adlewyrchu eich profiad fel person anabl neu fyddar. Gall cyflwyniadau fod mewn Iaith Arwyddion Prydain. Gallwch hefyd gynnwys enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol naill ai fel dolenni neu uwchlwythiadau.



Cytuno y gall DAC rannu eich gwaith:

Bydd DAC yn rhannu’r gwaith rydych yn ei gynhyrchu ar-lein ac mewn print am hyd at flwyddyn o’r dyddiad a derbynnir.

 

Bydd ceisiadau’n cael eu beirniadu ar:

  1. Potensial creadigol y syniad.

  2. Potensial y syniad o amlygu profiad byw.

  3. Potensial y cyfle i ddatblygu gyrfa’r artist.

 

Bydd o leiaf dau gomisiwn yn iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn arbennig yn croesawu ceisiadau sy'n archwilio hil neu natur o safbwynt anabledd.

 

Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â post@dacymru.com neu 07726 112784

 

Nodwch os gwelwch yn dda

  • Bydd y ffi yn cael ei ddosbarthu mewn dau daliad, bydd y taliad olaf yn cael ei wneud ar ôl derbyn y gwaith.

  • Mae'r ffioedd yn cynnwys costau mynediad, deunyddiau a chostau cynhyrchu.

  • Bydd yr artistiaid yn cael eu dewis gan banel annibynnol. Ni fydd unrhyw aelod o dîm DAC yn cymryd rhan yn y dethol.

  • Bydd angen i bob artist llwyddiannus roi esboniad byr o'u gwaith a'i ystyr cyn derbyn y taliad olaf. Gellir gwneud hyn fel fideo, hyd at rhwng 300-500 gair o destun neu ffeil sain. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi gan DAC ynghyd â'r gwaith am hyd at flwyddyn.

  • Rydym yn deall bod gwrthodiad yn anhygoel o anodd, yn enwedig yng nghyd-destun rhannu profiad byw. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth ac yn annog pob ymgeisydd aflwyddiannus i wneud cais eto am gomisiynau yn y dyfodol.


47 views
bottom of page