Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ceisiadau am Fwrsariaethau Caeredin 2026
- 3 days ago
- 1 min read
Awdur: Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig Bwrsariaethau Caeredin 2026 i gefnogi artistiaid a gweithwyr creadigol o Gymru i fynd i Ŵyl Ymylol Caeredin yn Awst. Dyma’r ŵyl gelfyddydol fwyaf yn y byd. Mae’n llwyfan pwysig i fagu cysylltiadau rhyngwladol, archwilio cydweithio ac arddangos gwaith i raglenwyr a gweithwyr y diwydiant o bob cwr o Brydain a’r tu hwnt.
Mae'r bwrsariaethau’n cefnogi pobl i fynd i gyfleoedd rhwydweithio, gweithdai, perfformiadau a digwyddiadau Cysylltu â’r Ŵyl. Bydd yn gymorth i fagu cysylltiadau newydd a chael cyfle i deithio’n rhyngwladol.
Mae'r cyfle’n dilyn cyhoeddi’n ddiweddar y 4 cynhyrchiad llwyddiannus i raglen arddangos Cymru yng Nghaeredin 2026 i gefnogi artistiaid o Gymru i gyflwyno gwaith sy'n barod i’w deithio yn yr Ŵyl.
I gael yr effaith fwyaf o’r rhaglen, bydd Theatr y Sherman yn cynnig cyngor a chymorth i’r rhai sy’n cael bwrsariaeth cyn ac yn ystod Caeredin. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas yr Ŵyl Ymylol a'r Cyngor Prydeinig i fachu ar gyfleoedd a digwyddiadau rhwydweithio.
Bydd hyd at 8 bwrsariaeth ar gael.
Bydd y rhai llwyddiannus yn mynd i’r Ŵyl rhwng 20–27 Awst 2026 yn rhan o ddirprwyaeth o Gymru.
1pm ar 16 Mehefin 2026 yw’r dyddiad cau.
Am ragor o wybodaeth am ymgeisio a gweld a ydych yn gymwys, ewch i dudalen Bwrsariaeth Caeredin 2026.



