top of page

Datganiad Anabledd Cymru ar adroddiad y Senedd ar y Bwlch Cyflogaeth Anabledd

Awdur: Anabledd Cymru


Mae AC yn croesawu Adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd ar y Bwlch Cyflogaeth Anabledd yng Nghymru sydd yn 31% ar hyn o bryd. Rydym yn cytuno â chanfyddiad y Pwyllgor bod ‘gormod o bobl anabl yn wynebu rhwystrau diangen i gyflogaeth yng Nghymru heddiw’ a bod cynnydd o ran mynd i’r afael â’r rhain yn ‘rhy araf’.


Rhoddodd AC dystiolaeth i’r Pwyllgor ac rydym yn llwyr gefnogi ei alwad i Lywodraeth Cymru:


  • Cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd cyn gynted â phosibl

  • Cyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) yng nghyfraith Cymru

  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyfrannu’n fwy sylweddol i daclo’r bwlch cyflogaeth anabledd

  • Ceisio diwygio Cynllun Hyderus o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • Codi pryderon am weithrediad gwael cynllun Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page