top of page

Dathlwch y broses o greu theatr De Asiaidd yng Nghymru gyda JHOOM yr haf hwn yn ystod Mis Treftadaeth De Asia!

  • cerys35
  • Aug 7
  • 1 min read

Awdur: JHOOM



15 Awst, 6yh


Yn dilyn ein sioe hynod lwyddiannus y llynedd, mae Golygfa/Newid yn ôl! Dyma’r rhaglen gyntaf o’i bath sy’n dathlu gwneuthurwyr theatr yng Nghymru sydd o dras De Asiaidd.


Bydd pedwar awdur o Dde Asia yn cynhyrchu sgript wreiddiol 15 munud yr un; y rhain yw Kia Shah, Priya Hall, Nadheem a Durre Shahwar. Fe’u cefnogir gan bedwar o ddramodwyr gorau Cymru, yn ogystal â mynychu gweithdai gydag Adran Lenyddol y Sherman.Byddwch yn cael cyfle i weld y dramâu newydd cyffrous hyn yn cael eu darllen am y tro cyntaf yn SJwdio’r Sherman, gyda chast a thîm creadigol o'r un gymuned.


Bydd y perfformiad hwn yn cael ei dehongli gan BSL Harjit Jagdev.


Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatr y Sherman.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page