Digwyddiad rhwydweithio aelodau DAC gyda Chaerdydd Creadigol - Mehefin
- 1 day ago
- 1 min read
Digwyddiad nesaf: 10/06/26, 14:00 - 16:00
Gyda diolch i Gaerdydd Creadigol, bydd y digwyddiadau yn parhau yn fisol gan gymryd lle pob ail ddydd Mercher y mis.
Bydd aelod o dîm DAC yn bresennol am bob digwyddiad. Nodwch os gwelwch yn dda, nid yw'r sesiynau yma yn rhedeg fel gweithdy, ond yn hytrach maent yn gyfle i gwrdd ag artistiaid eraill, rhannu eich gwaith, trafod syniadau, a ffeindio cymorth o fewn cymuned DAC a chymuned greadigol Caerdydd. Mae croeso i chi ddod â'ch gwaith, syniadau i'w rhannu, neu ymuno i sgwrsio dros de a chacen a dod i adnabod aelodau eraill o DAC mewn amgylchedd hamddenol.
Nid oes angen archebu, croeso i chi alw heibio.
Rydym wrth ein bodd i gydweithio gyda Chaerdydd Creadigol i greu digwyddiad rhwydweithio misol ar gyfer aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru. Nod Caerdydd Creadigol yw gwneud Caerdydd a’r rhanbarth yn brifddinas gysylltiedig, gydweithredol, cynhwysol a chreadigol.
Cyfeiriad:
The Station Room - Tramshed Tech, Unit D, Pendyris St, Caerdydd CF11 6BH
I ofyn cwestiynau am fynediad, cysylltwch â accessibility.tramshed@propagandavenues.com
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â post@disabilityarts.cymru



